Â鶹ԼÅÄ

Pleidlais yn y Senedd ar gyflwyno pas Covid-19 i Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
clwb nosFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd angen pas Covid er mwyn cael mynediad i glybiau nos

Bydd aelodau'r Senedd yn penderfynu a ddylai pas Covid fod yn orfodol ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos mewn pleidlais ddydd Mawrth.

O dan y cynlluniau, o 11 Hydref ymlaen bydd angen pas sy'n dangos os ydy rhywun wedi'i frechu'n llawn neu os ydyn nhw wedi cael prawf negyddol diweddar.

Mae angen cefnogaeth o leiaf un aelod o'r wrthblaid i gael y mesur drwy'r Senedd.

Mae cynrychiolwyr y diwydiant clybiau nos yn dweud bod eu "pryderon difrifol" wedi cael eu hanwybyddu gan Lywodraeth Cymru.

Gyda'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn bwriadu gwrthwynebu'r cynllun, mae'n golygu y bydd pleidleisiau Plaid Cymru yn hollbwysig.

Mae disgwyl i Blaid Cymru benderfynu sut i bleidleisio mewn cyfarfod fore Mawrth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywed Llywodraeth Cymru y bydd modd cael y pas ar ffonau symudol yng Nghymru

Mae'r Alban yn bwriadu cyflwyno pasbortau brechu o 18 Hydref, er bod rhai pobl yno wedi wynebu trafferthion mawr wrth geisio lawrlwytho ap penodol.

Yn lle lansio ap, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio system ar wefan sydd wedi bod yn gweithredu ers tri mis.

Mae hynny er gwaethaf sylwadau gan y Prif Weinidog Mark Drakeford ym mis Mai y byddai'r ap a ddefnyddir yn Lloegr ar gyfer pasys Covid ar gael i ddefnyddwyr yng Nghymru.

Mae grŵp sy'n cynrychioli'r diwydiant clybiau nos wedi rhybuddio y bydd hi'n anodd cyflwyno'r mesur.

Yn ôl y Night Time Industries Associations, bydd defnydd o'r pasys yn anghyson "ac ar ei waethaf yn anhrefnus".

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed ac sydd wedi cael ei frechu'n llawn yng Nghymru neu yn Lloegr, neu sydd wedi cael canlyniad prawf LFT o fewn y 48 awr ddiwethaf, gael pas.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae eisoes angen prawf brechu ar gyfer rhai digwyddiadau mawr

Ffugio prawf yn drosedd

Byddan nhw'n orfodol i unrhyw un dros 18 oed mewn:

  • Clybiau nos;

  • Digwyddiadau heb seddau dan do ar gyfer mwy na 500 o bobl;

  • Digwyddiadau heb seddau yn yr awyr agored gyda mwy na 4,000 o bobl;

  • Unrhyw ddigwyddiad gyda mwy na 10,000 o bobl, gan gynnwys digwyddiadau chwaraeon.

Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu ei gwneud hi'n anghyfreithlon i ffugio prawf negyddol.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yna goblygiadau moesol, cyfreithiol a gweithredol mawr yn sgil cyflwyno pasys gorfodol.

Yn Lloegr, mae'r llywodraeth Geidwadol wedi rhoi'r gorau i basbortau brechu, ond yn dweud y gallen nhw eu gweithredu'n os ydy'r wlad yn wynebu trafferthion mawr yn y gaeaf.

Mae Jane Dodds, yr unig Ddemocrat Rhyddfrydol y Senedd, wedi dweud bod ganddi bryderon ynghylch rhannu data meddygol.

Mewn ymateb, fe ddywedodd y llywodraeth bod pasys Covid yn un o nifer o fesurau a allai helpu i gadw cyfraddau coronafeirws mor isel â phosib.

Dywedodd Plaid Cymru bod angen edrych ar bob opsiwn i reoli lledaeniad y feirws, ond bod ganddyn nhw nifer o gwestiynau ynglŷn â chynlluniau'r llywodraeth.