Â鶹ԼÅÄ

Ffugio prawf ar gyfer pàs Covid yn drosedd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
pasbort brechu ar ffon symudolFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn gwneud ffugio canlyniad prawf Covid unffordd er mwyn cael pàs Covid yn drosedd.

Yn y Senedd dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y byddai digwyddiadau mawr yn medru gwirio pàs Covid pobl ar hap, yn hytrach na gofyn i bawb sydd yno i'w ddangos.

Bydd Senedd Cymru'n pleidleisio ar y cynlluniau i gyflwyno 'pasbort Covid' yng Nghymru ar 5 Hydref.

Tra bod y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn gwrthwynebu, mae Plaid Cymru wedi dweud nad ydyn nhw wedi penderfynu eto, a'u bod am weld mwy o fanylion.

Bydd eu pleidleisiau nhw'n allweddol, ac mae Plaid Cymru hefyd mewn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer cytundeb i gydweithredu yn y Senedd.

Bydd angen pàs Covid - sy'n dangos naill ai fod person wedi cael ei frechu'n llawn neu wedi cael prawf unffordd negyddol o fewn y 48 awr blaenorol - cyn cael mynd i rai lleoliadau cyhoeddus.

Gofynnodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price i Mr Drakeford a fyddai'n defnyddio technoleg a fyddai'n atal ffugio canlyniadau profion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Atebodd Mr Drakeford drwy gydnabod y gallai hynny "fod yn agored i ecsbloetiaeth", ac y byddai rheoliadau Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn drosedd i "ffugio canlyniadau prawf unffordd yn fwriadol er mwyn ei gwneud yn glir i bobl y byddai hynny yn rhoi pobl eraill mewn perygl".

Ychwanegodd y byddai gwirio pàs Covid pawb wrth giwio i fynd i ddigwyddiad mawr fel gêm rygbi ryngwladol yn "dadwneud y manteision o gael y pàs".

Mewn amgylchiadau felly, meddai, byddai gwiriadau ar hap yn digwydd.

Holodd Mr Price hefyd am y penderfyniad i ohirio cynhadledd Llafur Cymru ym mis Tachwedd, gan ofyn a fyddai Mr Drakeford yn galw ar arweinwyr sefydliadau eraill i ddilyn yr esiampl.

Atebodd Mr Drakeford bod y gynhadledd wedi'i gohirio am nad oedd "yn synhwyrol i nifer fawr o bobl deithio o bob rhan o Gymru gyda'i gilydd i leoliad lle y bydden nhw'n treulio cyfnodau hir gyda thorf o dan do".

"Rwy'n credu mai unigolion a sefydliadau eraill ddylai bwyso a mesur y sefyllfa drostyn nhw'u hunain," ychwanegodd.