'Diffyg arholwyr ar fai am brinder gyrwyr HGV'

Disgrifiad o'r fideo, ''Dan ni ar y ffôn am ddwyawr, dair i drio cael profion'
  • Awdur, Elen Wyn
  • Swydd, Gohebydd Â鶹ԼÅÄ Cymru

Wrth i sefyllfa'r prinder gyrwyr HGV barhau, mae perchennog cwmni hyfforddi gyrwyr lorïau o Wynedd yn credu mai prinder arholwyr sydd ar fai.

Yn ôl Steven Flynn, sy'n rhedeg Ysgol Yrru Carmel yng Nghaernarfon, mae ganddo ddegau o yrwyr sy'n barod i weithio, ond dydyn nhw ddim yn gallu oherwydd eu bod nhw'n disgwyl am eu prawf.

Mae o'n dweud hefyd fod y broses o archebu prawf ar-lein weithiau yn amhosib, ac yn disgrifio'r profiad o orfod aros am oriau i archebu dros y ffôn yn "dorcalonnus".

Dywedodd y DVSA (Driver & Vehicle Standards Agency) eu bod nhw yn "mynd i'r afael â'r broblem gan gynyddu nifer y gyrwyr lori sy'n cael eu harholi".

"'Dan ni ar y ffôn bob diwrnod, a 'dan ni'n cael ein rhoi ar hold," meddai Mr Flynn.

"I ateb y ffôn mae rhywun yn gorfod ista yna drwy'r dydd, oherwydd 'dan ni isio cael gwneud y licenseships, pethau bach syml, ond does 'na neb yn ateb y ffôn y pen arall.

"Wedyn 'dan ni'n cael test yn cael ei ganslo a 'dan ni'n gorfod ail-drefnu wedyn, so wedyn ma' bob dim yn disgyn yn ei ôl, so wedyn ma isio mwy o examiners. Mae'n syml."

Aros tri mis am brawf

Er bod y cwmni hyfforddi wedi ei leoli dafliad carreg o ganolfan sy'n cynnal arholiadau, mae'r hyfforddwr yn dweud fod rhai o'i yrwyr wedi gorfod disgwyl tri mis i archebu prawf yn ystod y gwanwyn, ar ôl y cyfnod clo.

Mae'n dweud fod y sefyllfa wedi "gwella'n aruthrol", ond bod y rhestrau aros yn parhau'n rhy hir.

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Stephen Jones bod angen mwy o arholwyr i ddelio gyda'r prinder

Mae o'n poeni y bydd yr oedi yn cael effaith hirdymor ar ei fusnes.

"Fel cwmni bychan yn G'narfon fysan ni yn licio tyfu lot mwy, fyswn i yn medru employio mwy o staff ar gyfer dysgu - mae'r peirannau i gyd gen i, mae'r iard genno' ni, wedi gwario lot o bres yma," meddai.

"Ond 'dan ni methu cael digon o tests i employio'r bobl yma. Achos mae 'na ddigon o waith yma."

'Rhaid i'r cyflogau godi'

Yn ôl Mr Flynn mae angen mwy o barch tuag at waith gyrwyr.

"'Di'r pandemig ddim wedi helpu, achos ma 'na fwlch mawr lle nad ydi pobl ddim wedi mynd a phasio eu tests," meddai.

"Ond y broblem fwya' ydi ble mae pobl yn cyflogi dreifars proffesiynol.

"Mewn ffordd, mae'n rhaid i'r cyflogau godi i attractio pobl ifanc i mewn i ddreifio loris. Pwy sy' isio cysgu mewn lori trwy'r wythnos a dim llefydd iawn i gael 'molchi a chael shower a chael bwyta yn ystod yr wythnos?

"Mi ddylsa bod y cyfloga' yn codi i ddangos hynna. 'Dach chi'n cael eich gweld fel dreifar proffesiynol ond mae isio talu'r pres proffesiynol amdano fo."

Ffynhonnell y llun, Tramino/Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Nid yw gohiriadau ar ran yr asiantaethau arholi wedi helpu'r sefyllfa, yn ôl hyfforddwyr gyrru

Er mai'r DVSA sy'n gyfrifol am yr arholiadau gyrru, mae yna broblemau ychwanegol yn codi hefyd, meddai Mr Flynn, gyda'r holl ddogfennau sydd angen eu cwblhau.

"Mae'n cymryd wythnosau ac wythnosau i'r gwaith papur ddod yn ôl gan y DVLA," meddai.

Un arall sy'n rhannu'r un rhwystredigaeth ydi Steve Jones, perchennog cwmni bysiau Llew Jones yn Llanrwst.

"Mae genno ni yrrwr sydd wedi pasio ei brawf gyrru, ond mae ganddo fo un theory test ar ôl, felly mae o wedi bod yn disgwyl am bythefnos a hanner am hwnnw a dal methu mynd allan ar y ffordd."

Disgrifiad o'r llun, Mae Steve Jones yn dweud bod mwy o yrwyr yn dewis peidio dychwelyd i'r diwydiant

Mae Steve Jones yn pryderu am ddyfodol ei fusnes os fydd y prinder arholwyr yn parhau.

"Os ydan ni yn cario 'mlaen hefo'r lefel yma o brinder, mi fydd rhaid i ni ddechra' rhoi'r gorau i'r gwaith 'dan ni'n 'neud... ac mae hynny yn mynd i gael effaith ar y busnes."

Angen symleiddio'r broses

"Fasan i yn licio gweld y broses yn cael ei symlhau," meddai Mr Jones.

"Ar y funud mae yna nifer o ddarnau i fynd drwy'r prawf cyn i'r gyrrwr fedru mynd ar y ffordd. A hefyd, cael mwy o bobl i 'neud y profion efo'r DVLA achos 'dan ni yn disgwyl am amser hir i gael pobl trwyddo."

Mae'r DVSA yn cydnabod mai'r diwydiant cludiant ydi asgwrn cefn yr economi, ac yn dweud eu bod nhw wedi gwrando ar y pryderon.

"Rydyn ni wedi mynd i'r afael â'r broblem gan gynyddu nifer y gyrwyr lori sy'n cael eu harholi," medden nhw.

Mae'r DVSA yn dweud mai 3.3 wythnos ar gyfartaledd ydi'r amser aros presennol, o'i gymharu â 2.7 wythnos cyn y pandemig.

Maen nhw'n dweud fod 3,000 o brofion galwedigaethol yn cael eu cymryd bob wythnos, o'i gymharu â 2,000 cyn Covid.

Mae'r Â鶹ԼÅÄ wedi gofyn i'r DVLA wneud sylw.