Â鶹ԼÅÄ

Ciwiau tu allan i orsafoedd petrol 'yn dechrau tawelu'

  • Cyhoeddwyd
tancer petrol yn Sir BenfroFfynhonnell y llun, Reuters

Mae ciwiau y tu allan i orsafoedd petrol yn dechrau gostwng, yn ôl perchennog un garej, wrth i'r panig am danwydd ddechrau cilio.

Yn dilyn golygfeydd eithriadol dros y penwythnos a ddechrau'r wythnos dywedodd Kurt Williams, cyfarwyddwr DK Forecourts - sy'n rhedeg 10 safle yn ne Cymru - fod pethau'n "dechrau tawelu".

Ond mae hi dal yn bosib y bydd y fyddin yn cael eu galw i helpu gyda chludo tanwydd, yn dilyn prinder o yrwyr loriau tancer.

Ac mae cwmni bysus o'r gogledd wedi rhybuddio fod y prinder gyrwyr hefyd yn effeithio eu diwydiant nhw, gyda phosibiliad o orfod cwtogi gwasanaethau oherwydd hynny.

'Dim mwy na £30'

Dywedodd Mr Williams fod ei gwmni wedi gwerthu pum gwaith yn fwy o danwydd nag arfer ers y twf sylweddol yn y galw'r wythnos diwethaf.

"Mae gennym ni dal giwiau y bore 'ma ond dim mor wael ag y gawson ni yn y pum diwrnod diwethaf," meddai wrth Â鶹ԼÅÄ Radio Wales Breakfast.

"Gobeithio bod pethau'n tawelu nawr a bod mwy ne lai pawb wedi cael y tanwydd sydd ei angen arnyn nhw, a bod modd mynd yn ôl i rywfaint o normalrwydd."

Ychwanegodd fod staff wedi cael rhywfaint o drafferth gan gwsmeriaid yn anhapus nad oedden nhw'n cael cymryd gwerth mwy na £30 o betrol.

Ffynhonnell y llun, Reuters

Ond byddai'n anodd, meddai, cyflwyno system ble roedd rhai pobl, fel gweithwyr hanfodol, yn cael blaenoriaeth.

"Byddai'n rhaid i chi ofyn am eu cardiau adnabod ac wedyn mae'n rhaid i chi eu tynnu nhw allan o'r ciw a gwthio pobl eraill yn ôl," meddai.

Cwtogi gwasanaeth bws

Yn y cyfamser mae perchennog Llew Jones Coaches, cwmni bysus yn Llanrwst, wedi dweud fod y prinder gyrwyr hefyd yn effeithio ar ei fusnes yntau.

"Mae yna rai [gyrwyr] ers Covid wedi ymddeol, mae yna rai heb iechyd da ac i ffwrdd," meddai. "Ychydig iawn o rai newydd sy'n dod i mewn neu prin ddim.

"Fel esiampl, cyn Covid os bysen ni'n rhoi hysbyseb allan am yrwyr, falle bysen ni'n cael un neu ddau efo trwydded iawn, ond falle bydden ni'n cael 30 neu 40 o bobol fyddai isio dysgu a chael hyfforddiant.

"Yr hysbyseb ddiweddaf, 'naeth neb ffonio ni na dim byd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cwmni eisoes wedi gorfod cwtogi eu gwasanaeth o Landudno i Fetws-y-Coed oherwydd y prinder.

"Am y tro cyntaf 'dan ni 'di gorfod dod i ben â pheidio mynd ar ôl 20:00," meddai.

"Oedden ni'n mynd tan hanner nos bob nos - ac mae pobl yn dibynnu ar y gwasanaeth yna i fynd i'r gwaith a dod adre."

'Plaster dros y briw'

Mae prif weinidog y DU, Boris Johnson wedi dweud y dylai pobl gael "hyder" wrth fynd ati gyda'u bywyd pob dydd, ond y bydd tua 150 o yrwyr tancer y fyddin yn paratoi i helpu rhag ofn bod eu hangen nhw.

Dywedodd Andrew Fox o Ynys Môn, sydd yn gyn-uwchgapten yn y fyddin, fod digon o yrwyr gan y lluoedd arfog i helpu er y byddai llawer ohonyn nhw'n gymharol amhrofiadol.

"Y peth pwysig yw cadw pethau'n llifo yn y wlad tra bod y llywodraeth yn gwneud beth sydd angen iddyn nhw er mwyn cael pawb arall yn ôl ar y ffordd," meddai.

"Fydd hyn byth yn ateb tymor hir, ond mae'n blaster dros y briw tra bod y gweddill yn gwella."

Pynciau cysylltiedig