Dechrau dymchwel tai ar stryd fwyaf llygredig Cymru

Bydd y gwaith o ddymchwel bloc cyfan o dai ar ffordd fwyaf llygredig Cymru yn dechrau ddydd Llun.

Yn 2016 nodwyd mai lefelau nitrogen deuocsid Ffordd Hafodyrynys yn Sir Caerffili oedd yr uchaf yn y DU y tu allan i ganol Llundain.

Roedd Cyngor Sir Caerffili wedi bwriadu dechrau ar y gwaith dymchwel ym mis Mai ond bu'n rhaid gohirio'r gwaith yn sgil y pandemig.

Mae'r gwaith o symud y cyflenwad nwy o'r 23 o gartrefi eisoes wedi dechrau, a'r gobaith yw gallu gorffen y gwaith hwnnw'r wythnos hon.

Disgrifiad o'r llun, Bydd 23 o dai ar Ffordd Hafodyrynys yn cael eu dymchwel

Cerbydau yn teithio rhwng siroedd Torfaen, Blaenau Gwent a rhannau o Gaerffili sy'n cael eu beio am y llygredd awyr.

Penderfynodd cabinet y cyngor y byddai'r eiddo yn cael ei brynu'n orfodol yn 2019 a hynny 50% uwchben cyfradd y farchnad.

Mae'r gwaith o ddymchwel y tai wedi cael ei ohirio ddwywaith, gan ennyn beirniadaeth gan drigolion lleol.

Yn ôl y Cynghorydd Rhys Mills, sy'n faer Y Coed Duon rhyw bum milltir o'r safle, mae'n beth da bod y gwaith yn dechrau.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Rhys Mills, maer Y Coed Duon ei fod yn beth da bod y gwaith yn dechrau o'r diwedd

"Mae pobl yn hapus bod y gwaith wedi dechrau - mae'n amser i ddechrau'r gwaith," meddai.

"Mae pobl yn deall y sefyllfa o ran llygredd. Maen nhw'n deall fod hynny'n bryder dros fywyd pawb."

Ychwanegodd: "Byddai wedi bod yn dda petai'r gwaith wedi dechrau ynghynt ond mae'n digwydd nawr."

Yn gynharach yn y flwyddyn, dywedodd y cyngor bod y pandemig wedi achosi oedi i'r gwaith, ond ei bod hi'n ofynnol hefyd cynnal arolygon ecolegol a strwythurol a symud asbestos.