Â鶹ԼÅÄ

Prynu a dymchwel tai ar ffordd fwyaf llygredig Cymru

  • Cyhoeddwyd
Hafodyrynys
Disgrifiad o’r llun,

Mae lorïau a cheir yn defnyddio'r ffordd rhwng Trecelyn a Phont-y-pŵl

Bydd trigolion un o strydoedd mwyaf llygredig y DU yn cael cynnig 150% o werth eu cartrefi er mwyn eu dymchwel.

Yn 2015 a 2016 roedd lefelau nitrogen deuocsid - NO2 - ar yr A472 ym Mryn Hafodyrynys yng Nghrymlyn yn uwch na chanllawiau'r World Health Organisation (WHO) a rheolau'r Undeb Ewropeaidd, ac yn uwch nag unman arall yn y DU y tu allan i Lundain.

Yr wythnos nesaf, bydd cabinet Cyngor Caerffili yn ystyried cymeradwyo cynllun i brynu'r cartrefi sy'n diodde' waethaf.

Mae'r ffordd rhwng Trecelyn a Phont-y-pŵl yn llygredig gan fod amcangyfrif o 21,000 o symudiadau cerbydau ar ei hyd yn ddyddiol.

Mae nifer o gynigion wedi eu gwneud i wella ansawdd yr aer yno, gan gynnwys prynu a dymchwel 23 o gartrefi a busnesau.

Byddai hynny'n costio £4.5m, a dyna oedd y cynnig oedd yn cael ei ffafrio gan Lywodraeth Cymru.

Yn wreiddiol fe wrthodwyd hynny gan y cyngor, gan ddweud y gallai ond cynnig gwerth y farchnad am y gorchmynion prynu gorfodol.

Disgrifiad o’r llun,

23 o adeiladau ar ochr ddeheuol y ffordd sy'n diodde' waethaf o'r llygredd

Yn ôl arweinydd yr awdurdod Dave Poole, fe allai hynny achosi trafferthion ariannol i drigolion wrth geisio prynu eiddo yn rhywle arall oherwydd gwerth isel eu tai.

Ond nawr yn dilyn cytundeb gyda Llywodraeth Cymru mae'r cyngor yn bwriadu prynu rhai o'r tai sy'n diodde' waethaf ac ochr ddeheuol y ffordd am 150% o'u gwerth.

Dywedodd Mr Poole: "Mae'r cyngor wedi mynnu ein bod yn rhoi buddion trigolion Hafodyrynys yn gyntaf.

"Mae'r cynnig yma o fudd i bawb, ac rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'n galwad am arian er mwyn medru cynnig pecyn teg i'r trigolion."

Byddai dymchwel yr adeiladau yn caniatáu i'r cyngor gyrraedd targedau ansawdd aer erbyn 2022.

Fe fydd adroddiad yn cael ei ystyried gan gabinet y cyngor yr wythnos nesaf cyn iddo gyflwyno cynllun gweithredu i Lywodraeth Cymru.