Â鶹ԼÅÄ

Pwysau'r pandemig yn cynyddu unwaith yn rhagor ar y GIG

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Gofal dwysFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru wedi apelio ar bobl i gymryd pob cam posib i atal lledaeniad coronafeirws a lleihau'r pwysau cynyddol ar ysbytai.

Dywedodd Mark Drakeford bod y gyfradd achosion - 522.7 i bob 100,000 o bobl, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Gwener - bellach ar yr un lefel ag ym mis Rhagfyr diwethaf.

Rhybuddiodd: "Os yw'r feirws yn parhau i ledu ar y raddfa bresennol, gallwn ddisgwyl gweld tua 3,200 o achosion yn cael eu cadarnhau bob diwrnod wrth i'r don yma gyrraedd uchafbwynt tua diwedd y mis."

Dywedodd hefyd y bydd gweinidogion Llywodraeth Cymru'n penderfynu wythnos nesaf a ddylid cyflwyno pasportau Covid, sy'n cyfyngu ar allu rhai i fynd i fannau cyhoeddus fel clybiau nos.

Bydd Mr Drakeford yn cyhoeddi casgliadau'r adolygiad tair wythnos diweddaraf ar ddydd Gwener, 17 Medi.

Roedd achosion ar eu lefel isaf ym misoedd Ebrill a Mai, gan godi'n gyson wedi hynny yn sgil yr amrywiolyn Delta.

Mae hi'n chwech wythnos erbyn hyn ers i gyfyngiadau Covid Cymru symud i lefel sero, gan roi terfyn ar orfod ymbellhau'n gymdeithasol a chyfyngiadau ar gwrdd dan do.

Disgrifiad o’r llun,

Gofynnodd Mark Drakeford ddydd Gwener "am help pawb i reoli'r galw ar ein GIG"

"Wrth i gyfyngiadau godi, ac wrth inni gael mwy o ryddid ac ymgynnull mewn mewn niferoedd uwch, mae achosion wedi cynyddu," meddai Mr Drakeford yng nghynhadledd newyddion Llywodraeth Cymru.

"Mae gyda ni nawr gyfraddau coronafeirws uchel iawn yn ein holl gymunedau - cyfraddau y mae'r modelu ar ein rhan yn dweud sy'n debygol o waethygu dros yr wythnosau nesaf."

Dywedodd bod y rhaglen frechu, wrth wanhau'r cysylltiad rhwng dal yr haint a chael salwch difrifol, wedi gwneud hi'n bosib dygymod gyda'r cynnydd mewn achosion am gyfnod.

Ond rhybuddiodd bod "pwysau'r pandemig ar y GIG yn cynyddu unwaith yn rhagor" wrth i'r feirws ledu'n gyflymach unwaith yn rhagor.

Staff 'wedi ymlâdd'

Dywedodd bod ysbytai Cymru'n derbyn tua 40 o gleifion Covid-19 y dydd ar hyn o bryd, a bod ychydig dros 420 o gleifion yn yr ysbyty gyda'r feirws ar hyn o bryd, sef "y nifer uchaf ers Mawrth".

Ond mae'r modelu'n awgrymu y gallai'r nifer dyddiol o gleifion Covid sy'n gorfod mynd i'r ysbyty godi i 100 y dydd wrth i'r don o achosion Delta gyrraedd brig.

"Bydd rheiny'n cynnwys llawer a fydd angen bod yr yr ysbyty am gyfnod hir, a llawer a fydd angen gofal dwys," meddai Mr Drakeford.

"Fe fyddan ni'n cyrraedd GIG sydd eisoes dan bwysau eithriadol wrth iddo ymateb i alwadau gofal iechyd brys a darparu mwy o lawdriniaethau a llawdriniaethau wedi'u trefnu."

Rhybuddiodd bod gwasanaethau iechyd a gofal eisoes yn wynebu trafferthion staffio am amryw o resymau a bod staff "wedi ymlâdd ar ôl gweithio mor galed dros y 18 mis diwethaf".

Apeliodd ar y cyhoedd i ystyried mynd at feddyg teulu neu fferyllfa yn lle mynd yn syth i adran ddamweiniau a brys ysbyty.