Â鶹ԼÅÄ

'Diffyg trafod ar deithiau tramor yn annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Saint-Gilles-Croix-de-VieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fydd pobl ddim yn gorfod hunan-ynysu na chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd o Ffrainc

Dywed Llywodraeth Cymru eu bod yn anhapus am nad yw Llywodraeth y DU, unwaith yn rhagor, wedi ymgynghori â nhw am y newidiadau i deithio rhyngwladol.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi newidiadau i'r rhestrau o wledydd coch, oren a gwyrdd ar gyfer Lloegr.

O ganlyniad dywed Llywodraeth Cymru nad yw hi'n bosib iddyn nhw gael polisi ar wahân ac y bydd y rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru hefyd Sul.

Mae datganiad gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi ymdrechu'n "barhaus i gael penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan yn y maes hwn" ond bod "penderfyniadau ar gyfer Lloegr wedi'u gwneud unwaith eto heb drafod â Llywodraeth Cymru na'r llywodraethau datganoledig eraill".

Annog peidio teithio dramor

Dywedodd Ms Morgan: "Mae hyn yn annerbyniol ac mae'r polisi teithio rhyngwladol yn effeithio ar bob rhan o'r DU ac mae angen i fuddiannau Cymru gael eu hystyried fel rhan o'r broses benderfynu.

"Rydym yn hynod siomedig â'r dull gweithredu unochrog hwn ac yn credu bod risgiau amlwg o hyd i iechyd y cyhoedd wrth roi'r hawl i deithio'n rhyngwladol tra bo'r feirws ar led yn fyd-eang.

"Am y rhesymau hyn, rydym yn parhau i argymell na ddylid teithio'n rhyngwladol yr haf hwn ac eithrio am resymau hanfodol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr un system goleuadau traffig â gweddill y DU yn dod i rym yn Nghymru ddydd Sul

Ond mae'n dweud gan bod Cymru yn rhannu ffin agored â Lloegr nad yw hi'n ymarferol nac yn bosibl cyflwyno polisi iechyd gwahanol ar wahân ar gyfer y ffin.

Felly, byddwn ninnau'n gwneud yr un newidiadau â'r rhai sy'n cael eu gwneud yn Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, er mwyn cynnal yr un system goleuadau traffig â gweddill y DU.

Yn sgil hynny:

  • Bydd Awstria, yr Almaen, Slofenia, Slofacia, Latfia, Romania a Norwy yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr werdd.

  • Bydd Georgia, La Réunion, Mayotte a Mecsico yn cael eu symud o'r rhestr oren i'r rhestr goch.

  • Bydd India, Bahrain, Qatar a'r Emiraethau Arabaidd Unedig yn cael eu symud o'r rhestr goch i'r rhestr oren.

Bellach, ni fydd pobl sydd wedi'u brechu'n llawn yn y DU, yn Ewrop neu yn Unol Daleithiau America, gyda brechlynnau cymeradwy, yn gorfod hunan-ynysu a chymryd prawf PCR ar yr wythfed diwrnod ar ôl cyrraedd o Ffrainc.

Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym am 04:00 ddydd Sul 8 Awst.