Â鶹ԼÅÄ

Taliad cymorth hunan-ynysu i godi i £750 yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
hunan-ynysuFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd taliad cymorth hunan-ynysu Llywodraeth Cymru yn codi o £500 i £750 o ddydd Sadwrn ymlaen.

Mae'r arian yn cefnogi pobl sydd ddim yn gallu gweithio o adref, rhieni a gofalwyr sydd â phlant.

O'r penwythnos hwn hefyd bydd oedolion yng Nghymru sydd wedi cael dau ddos o'r brechlyn ac sy'n dod i gysylltiad agos gydag achosion positif o Covid ddim yn gorfod hunan-ynysu.

Ni fydd yn rhaid i bobl o dan 18 oed hunan-ynysu chwaith os ydyn nhw wedi dod i gysylltiad agos ag achos positif.

Mae'r cynllun taliadau, sy'n cael ei weinyddu gan gynghorau lleol, wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2022 a bydd y cynnydd yn y tâl cymorth yn cael ei adolygu gan weinidogion ymhen tri mis.

Mae'r taliad wedi'i gynllunio i oresgyn rhai o'r rhwystrau ariannol sy'n wynebu pobl sy'n cael cyfarwyddyd i hunan-ynysu gan wasanaeth Profi Olrhain Diogelu (TTP) GIG Cymru - fel arfer pobl sydd wedi cael prawf positif, pobl sydd â symptomau coronafeirws neu bobl sy'n gysylltiadau agos ond sydd heb eu brechu'n llawn.

Y bwriad, medd y llywodraeth, wrth gynyddu'r swm yw digolledu unrhyw un sy'n ennill hyd at y trothwy incwm personol ac sy'n colli cyflog dros y cyfnod hunan-ynysu o 10 diwrnod.

Ffynhonnell y llun, MHorwood
Disgrifiad o’r llun,

"Brechlynnau yw'r ffordd orau inni allu dod o'r pandemig," medd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan

Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans: "Mae mwy na 14,518 o daliadau cymorth wedi'u gwneud ers mis Tachwedd 2020 ac rydym wedi ymrwymo i barhau i gefnogi'r rhai sydd ei angen wrth inni ddod allan o'r pandemig.

"Mae'r taliadau hyn yn hanfodol a bydd y cynnydd i £750 yn rhoi sicrwydd pellach i unrhyw un y mae'r gwasanaeth TTP wedi dweud wrthynt am hunan-ynysu, ond a allai brofi caledi ariannol yn sgil gorfod aros gartref.

"Mae'r awdurdodau lleol wedi ymateb i'r her o sicrhau bod y taliadau'n cael eu gwneud yn gyflym i'r bobl sydd eu hangen.

"Mae'r awdurdodau lleol wedi cael cyngor pellach ar sut y gallant ddarparu cymorth ymarferol a chefnogaeth i ymgeiswyr wrth iddynt wneud cais am y taliad."

'Angen cael y brechlyn'

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan: "Mae mor bwysig bod pobl yn hunan-ynysu os ydyn nhw'n profi'n bositif am Covid-19 neu os ydyn nhw'n gysylltiad agos sydd heb ei frechu'n llawn, er mwyn atal y feirws rhag lledaenu a diogelu teulu a ffrindiau.

"Mae'n bwysig ein bod yn parhau i fuddsoddi i roi cymorth i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

"Brechlynnau yw'r ffordd orau inni allu dod o'r pandemig... ac rwy'n annog unrhyw un sydd heb gael ei frechu i fanteisio ar y cynnig."

Sut mae'r cynllun yn gweithio?

Mae modd i bobl wneud cais am dâl cefnogaeth ar-lein gan ddarparu tystiolaeth eu bod yn cwrdd â gofynion penodol.

Mae'r tâl ar gael i bobl na sy'n gallu gweithio o adref ond sy'n derbyn budd-daliadau - gan gynnwys credyd cynhwysol a budd-dal tai.

Mae'r grant ar gael hefyd i rai na sy'n derbyn budd-daliadau ond sy'n dioddef caledi ariannol wrth hunan-ynysu.