Galw am adolygiad o ddiogelwch Mark Drakeford yn sgil protest

Disgrifiad o'r fideo, Mae cyn-bennaeth diogelwch y Teulu Brenhinol wedi dweud bod y digwyddiad yn "warthus"

Dylid adolygu diogelwch y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn dilyn protest y tu allan i'w gartref, yn ôl arbenigwr.

Ddydd Sadwrn fe wnaeth grŵp o bobl dargedu cartref Mr Drakeford yng Nghaerdydd wedi protest ehangach yng nghanol y ddinas yn erbyn cyfyngiadau Covid-19.

Dywedodd Dai Davies, cyn-bennaeth diogelwch y Teulu Brenhinol, fod y digwyddiad yn "hollol annerbyniol".

Dywedodd Heddlu De Cymru na fyddai'n gwneud unrhyw sylwadau ar faterion diogelwch.

Daeth y protestiadau wythnos wedi i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau Covid-19 ymhellach, gyda disgwyl i ragor newid o 7 Awst.

Disgrifiad o'r llun, Cafodd delweddau o bobl yn ymgasglu ac yn areithio tu allan i gartref Mr Drakeford eu cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol

Dywedodd yr heddlu fod tua 500 o brotestwyr wedi cyfarfod yn Neuadd y Ddinas cyn symud i leoliadau eraill, gan gynnwys y tu allan i dÅ· Mr Drakeford.

Roedd y brotest, medd y llu, yn un heddychlon a ni chafodd unrhyw un eu harestio.

Ond mae nifer o wleidyddion trawsbleidiol wedi dweud fod y digwyddiad yn gyfystyr â "bwlio".

"Sut oedd hi'n bosib iddyn nhw allu mynd mor agos â hynny i gartref y prif weinidog?" meddai Mr Davies ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales Breakfast.

"Dylie 'na fod adolygiad brys eto gan rywun sy'n gymwys i'w wneud o, i adolygu ei gartref a chartref unrhyw weinidog arall a allai gael eu heffeithio gan y grŵp bach ma' o bobl hurt.

"Mi gewch chi leiafrif bach bob amser sydd eisio trio bwlio ac aflonyddu.

"Dyna pam dwi'n d'eud ei fod o'n gwbl annerbyniol... Beth bynnag yw eich barn am y Prif Weinidog Mark Drakeford, ddylia fo ddim gael ei gam-drin fel hyn."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Davies bod Mr Drakeford "yn gwneud ei orau... ond hyd yn oed pan 'di o ddim, mae o wedi ei ethol yn ddemocrataidd ac yn haeddu cael ei warchod dan y gyfraith".

Ychwanegodd mai yn ei farn roedd yna sail i'r heddlu arestio pobl am ymddygiad oedd yn tarfu ar heddwch.

Oes angen cartref swyddogol i brif weinidog Cymru?

Cafodd protestiadau tebyg i'r un yng Nghaerdydd eu cynnal ar yr un diwrnod mewn dinasoedd ar draws y byd, gan gynnwys Llundain, Paris, Sydney a Toronto.

Yn ôl rhagflaenydd Mr Drakeford, Carwyn Jones - Prif Weinidog Cymru rhwng 2009 a 2018, fe wnaeth protestwyr "groesi ffin" wrth ymgynnull tu allan i'w eiddo preifat.

Mae hynny, medd Mr Jones, yn "un o hoff dactegau'r dde eithafol yn America".

Yn wahanol i arweinydd nifer o wledydd eraill, gan gynnwys Lloegr a'r Alban, does dim cartref swyddogol ar gyfer prif weinidog Cymru.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies hefyd wedi beirniadu'r golygfeydd tu allan i dÅ· Mr Drakeford.

Gan fod y pandemig "yn ddiamau wedi cynyddu'r sylw i'r Senedd a'i gwleidyddion, ac i'r prif weinidog yn bennaf" dywedodd nad yw camau diogelwch "oedd yn briodol ychydig flynyddoedd yn ôl ddim yn briodol erbyn hyn".

Ond er ei fod o blaid adolygu trefniadau diogelwch yn gyson, dywedodd y byddai cartref swyddogol ar gyfer y prif weinidog yn "or-gywiro diangen".