Â鶹ԼÅÄ

Protestwyr ger tÅ· Mark Drakeford wedi 'croesi ffin'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe symudodd Mark Drakeford allan o'i gartref am gyfnod y llynedd oherwydd bod aelodau o'i deulu'n gwarchod rhag Covid

Fe wnaeth protestwyr "groesi ffin"wrth brotestio y tu allan i dŷ'r Prif Weinidog Mark Drakeford, yn ôl ei ragflaenydd.

Yn ystod protest ehangach yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn yn erbyn cyfyngiadau Covid, fe wnaeth grŵp o bobl dargedu cartref Mr Drakeford yn y ddinas.

Mae'r cyn-brif weinidog Carwyn Jones wedi bellach wedi beirniadu'r protestwyr, gan ddweud ei fod yn adlewyrchu "tactegau... y dde eithafol".

Wrth ymateb i'r digwyddiad ddydd Sadwrn dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi gallu "llacio'r rhan fwyaf o gyfyngiadau diolch i ymdrechion pobl Cymru".

'Lleiafrif bach'

Daeth y protestiadau wythnos wedi i Lywodraeth Cymru lacio cyfyngiadau Covid ymhellach, gyda disgwyl i ragor newid o 7 Awst.

Ddydd Sul cafodd dros 1,200 o achosion Covid newydd eu cofnodi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond dim un farwolaeth.

Dywedodd Heddlu'r De fod "tua 500 o brotestwyr" wedi cyfarfod yn Neuadd y Ddinas cyn "symud i sawl lleoliad yn y ddinas", ond na chafodd unrhyw un eu harestio.

Roedden nhw'n gysylltiedig â gwrthdystiadau tebyg eraill gafodd eu cynnal ar draws y byd mewn dinasoedd fel Llundain, Paris, Toronto a Sydney.

Wrth siarad â Â鶹ԼÅÄ Cymru, dywedodd Mr Jones ei fod yn "cefnogi'r hawl i brotestio" ond bod gwneud hynny "o flaen tÅ· preifat rhywun" yn mynd yn rhy bell.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd cannoedd o bobl yn rhan o'r brotest ar un adeg

"Mae hwn yn dacteg sydd wedi cael ei fabwysiadu gan y dde eithafol yn America, a chi'n gweld bod e'n dacteg mae rhai moyn mabwysiadu fan hyn," meddai.

Ychwanegodd ei fod wedi gweld diogelwch o gwmpas prif weinidog Cymru'n "cynyddu dros y blynyddoedd" wrth i'r swydd ddod yn fwy uchel ei phroffil.

"Yn anffodus mae'n rhan o'r swydd - ni gyd yn gorfod mynd drwyddo fe," meddai.

"Ond ddylech chi ddim gorfod derbyn pobl yn sgrechian o flaen eich tÅ·. Dyle fod 'na ffin, a dyle'r ffin yna gael ei barchu.

"Lleiafrif bach o bobl yw hyn, pobl sy'n byw mewn byd afreal, nid yr un byd 'dyn ni'n byw ynddo.

"Achos bod nhw methu derbyn fod y rhan fwyaf o bobl ddim yn cytuno gyda nhw, maen nhw'n mabwysiadu'r tactegau hyn."

'Annerbyniol'

Mae gan arweinwyr gwleidyddol amlwg eraill ym Mhrydain, fel prif weinidogion y DU a'r Alban, dai swyddogol sy'n dod gyda'r swydd.

Ond yn ôl Carwyn Jones, byddai'n "golled" petai Cymru'n gorfod dilyn yr un trywydd oherwydd rhesymau diogelwch.

"Un o'r pethau o'n i'n mwynhau pan o'n i'n brif weinidog oedd y ffaith bo' fi'n cerdded rownd y lle, cerdded rownd Caerdydd, cerdded rownd Pen-y-bont," meddai.

"Mae pobl yn dweud pethau ar y cyfryngau cymdeithasol maen nhw'n pallu dweud i'ch gwyneb, so nhw'n ddigon dewr i 'weud 'na. Felly do'n i'm yn cael lot fawr o broblem fan 'na."

Ychwanegodd ei fod wedi cysylltu â Mark Drakeford i gynnig ei gefnogaeth yn dilyn y digwyddiad.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gerddodd rhai pobl i ganol y ddinas fel rhan o'r brotest, wrth i'r heddlu eu hebrwng

Mae gwleidyddion eraill eisoes wedi beirniadu'r brotest, gydag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Andrew RT Davies yn dweud fod y golygfeydd yn "destun pryder".

"Os ydych chi'n anghytuno yn wleidyddol (a credwch chi fi, rydw i a [Mr Drakeford] yn aml yn gwneud) wedyn ewch mewn i wleidyddiaeth," meddai. "Dydy poenydio byth yn dderbyniol."

Dywedodd dirprwy arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth fod protestio tu allan i dÅ· gwleidydd "yn hollol annerbyniol".

"Er mod i'n anghytuno gyda'r protestwyr hyn mae ganddyn nhw hawl i'w barn, ond does byth esgus dros dargedu unigolyn a'i deulu yn y fath ffordd," meddai.

Ychwanegodd Delyth Jewell o Blaid Cymru: "Dylai'r bobl oedd yn protestio tu allan i gartref preifat Mark Drakeford ddoe fod a chywilydd.

"Does dim lle i fwlio a chodi ofn yn ein gwleidyddiaeth."

Ddydd Sadwrn dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi gallu llacio'r rhan fwyaf o gyfyngiadau diolch i ymdrechion pobl Cymru drwy gydol y flwyddyn.

"Ond dyw'r pandemig ddim drosodd ac mae gan bob un ohonom ran bwysig i'w chwarae wrth gadw Cymru'n saff."