Â鶹ԼÅÄ

Gorchuddion wyneb 'i barhau i helpu diogelu Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pobl yn siopaFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Does dim disgwyl penderfyniad tan nes ymlaen yn yr haf ynghylch llacio'r rheol gwisgo mwgwd mewn llefydd fel siopau

Bydd pobl yng Nghymru yn dal yn gorfod gwisgo mygydau mewn rhai llefydd "tra bo'r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd", medd Llywodraeth Cymru.

Pe bai Cymru'n symud o Lefel 1 y cynllun rheoli Covid-19 i'r lefel rhybudd sero newydd, fe fyddai'n dal yn orfodol i orchuddio'r wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus a thacsis ac mewn ysbytai a chartrefi gofal.

Ychwanegodd y llywodraeth bod dim penderfyniad eto ynghylch llacio'r rheolau ar wisgo mwgwd mewn siopau.

Mae Llywodraeth Cymru dan bwysau i ddilyn yr un trywydd â Lloegr, ble mae disgwyl i'r rhan helaeth o gyfyngiadau coronafeirws ddod i ben ar 19 Gorffennaf.

Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cyhoeddi penderfyniadau eu hadolygiad diweddaraf ddydd Mercher, ac fe allai hynny gynnwys llacio'r rheolau mewn rhai mannau dan do, "gan gynnwys yng nghartrefi pobl".

Dan gyfyngiadau Lefel 1, mae'n rhaid gwisgo mwgwd dan do mewn mannau cyhoeddus, ond cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ddydd Gwener na fydd angen eu gwisgo yn yr ystafell ddosbarth o fis Medi.

Ond fe gadarnhaodd gweinidogion ddydd Sul "y bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofynnol o dan y gyfraith mewn rhai mannau tra bo'r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd gwisgo mygydau'n orfodol yn y sector iechyd am beth amser

Dywedodd Mr Drakeford: "Bydd angen help pawb arnom i gadw'r coronafeirws dan reolaeth wrth i ni barhau i ymateb i'r pandemig - yn sicr nid yw'r feirws hwn wedi diflannu.

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer o bobl yn parhau i boeni ac yn bryderus am fynd allan.

"Byddwn yn cynnal y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb mewn rhai mannau - ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ac mewn llefydd eraill yn ôl yr angen - er mwyn helpu i'n cadw ni i gyd yn ddiogel."

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwisgo mygydau'n dal yn hanfodol mewn lleoliadau sy'n gaeëdig neu heb system awyru, medd Eluned Morgan

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Rydym yn hollol glir y bydd hyn yn hanfodol mewn sefyllfaoedd lle nad oes gan bobl unrhyw ddewis ond teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, lle mae yna leoedd caeëdig heb ddulliau awyru amlwg iawn.

"Mae'r rhain yn lleoedd amlwg i ni ganolbwyntio arnyn nhw... Rydyn ni'n dal i drafod a oes angen i ni fynd ymhellach ac a ydyn ni am gyflwyno hyn hefyd mewn siopau."

Ychwanegodd Ms Morgan y bydd pethau'n edrych yn wahanol iawn yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr ar 19 Gorffennaf, ond bod gobaith am ychydig o lacio yn ddiweddarach yn yr haf.

Ymateb gwrthbleidiau

Dywedodd Ceidwadwyr Cymru: "Y broblem gyda newyddion heddiw yw bod cyhoeddiad mawr yn cael ei wneud drwy'r cyfryngau unwaith eto, ar benwythnos, lle gall Llywodraeth Cymru osgoi craffu gan aelodau etholedig unwaith eto.

"Wrth fynd i'r afael â Covid mae gofyn i ni ddilyn y data ac nid amserlen y cyfryngau."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y blaid "yn croesawu penderfyniad synhwyrol Llywodraeth Cymru i fynnu defnyddio gorchuddion wyneb yn barhaus mewn rhai lleoliadau gan fod nifer yr achosion yn parhau i fod yn uchel".

Ond mynegodd bryder bod tystiolaeth uniongyrchol yn dangos... nad yw'r deddfau cyfredol ar gyfer pellhau cymdeithasol a gorchuddion wyneb yn cael eu gorfodi'n briodol mewn lleoliadau caeedig fel trenau".