Â鶹ԼÅÄ

Galw ar Gymru i ddilyn rheolau teithio Lloegr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Traeth MalagaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sbaen yw un o'r gwledydd ar y rhestr ambr

Mae trefnwyr gwyliau a theithiau'n galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r un rheolau â'r rhai i deithwyr o Loegr.

O 19 Gorffennaf ni fydd yn rhaid i drigolion Lloegr sydd wedi cael dau frechiad coronafeirws hunan-ynysu ar ôl dychwelyd i'r DU o wledydd rhestr ambr.

Ond mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn dweud ei bod yn pryderu y gall amrywiolion Covid newydd ddod i'r DU o dramor.

Dywedodd mai'r cyngor o hyd yng Nghymru yw i osgoi teithiau dramor oni bai eu bod yn hanfodol.

"Byddwn yn edrych ar y sefyllfa yna yn y dyddiau nesaf i benderfynu beth yw ein hymateb," meddai, gan gyfeirio at y cynlluniau sydd ar y gweill yn Lloegr.

"Mae gyda ni bryderon difrifol ynghylch y sefyllfa ble mae pobl yn cael y neges bod, os y'ch chi wedi cael dau frechiad, mae'n golygu nad y'ch chi'n agored i niwed ac yn sicr, nid dyna'r neges ry'n ni eisiau ei rhoi i bobl Cymru."

Mae'r trefnydd gwyliau Sue Glen wedi cael nifer fawr o ymholiadau gan bobl yng Nghymru sy'n gobeithio teithio yn yr hydref a'r gaeaf, ond mae cwsmeriaid yn Lloegr am fynd ar wyliau cyn diwedd yr haf.

Dywedodd bod llawer o bobl yng Nghymru'n "croesi'u bysedd" y bydd Llywodraeth Cymru'n mabwysiadu'r un rheolau ag yn Lloegr.

"Mae angen yr un canllawiau - mae yna ddigon o gymhlethdod," meddai Ms Glen, sydd â busnes trefnu gwyliau yn Llanfair-ym-Muallt, ym Mhowys. "Nonsens yw peidio gorfod dilyn yr un rheolau.

"Bydd llawer o deithwyr o Gymru'n defnyddio meysydd awyr yn Lloegr. Trywydd unedig sy' fwyaf ymarferol, wrth symud ymlaen."

'Angen hyder'

Dydy cwmni Edwards Coaches, o Lantrisant, yn Rhondda Cynon Taf, heb gludo teithwyr i Ewrop ers Nadolig 2019, er bod gwyliau dramor fel arfer yn werth £2.5m, sef 30% o werthiannau'r cwmni.

Yn ôl rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Jason Edwards fe ddylai Llywodraeth Cymru "gael yr hyder a gwneud yr un peth" â Llywodraeth San Steffan, gan newid y cyngor i deithwyr sy'n dychwelyd o wledydd rhestr ambr.

"Ry'n ni angen neges gyson rhwng llywodraethau'r DU a Chymru," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar hyn o bryd mae gofyn i deithwyr hunan-ynysu am 10 diwrnod wrth ddychwelyd i Gymru o wledydd coch ac ambr, waeth sawl brechiad maen nhw wedi eu cael.

Bydd Gogledd Iwerddon yn dilyn esiampl Lloegr gan ddileu'r rheolau cwarantîn o 26 Gorffennaf yn achos pobl sydd wedi cael eu brechu'n llawn rhag coronafeirws wrth deithio i ac o wledydd rhestr ambr.

Mae disgwyl penderfyniad yn Yr Alban wythnos nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru'n cynghori pobl i beidio â theithio dramor oni bai bod y daith yn hanfodol, ac yn adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws wythnos nesaf.

'Dryswch llwyr'

"Mae pobl wedi drysu," medd Suzanne Cumpston, o gwmni Sam Smith Travel yn Y Bont-faen, ym Mro Morgannwg.

"Holl bwynt y system goleuadau traffig oedd ei fod ar gyfer y Deyrnas Unedig ond dydyn ni ddim yn unedig iawn."

Dywedodd bod yna "groesi bysedd" y bydd Llywodraeth Cymru'n newid y rheolau wedi'u hadolygiad, a bod "angen i ni gyd fod yr un fath".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl Anna Reed, cyfarwyddwr cwmni Ocky White Travel yn Hwlffordd, yn Sir Benfro, mae yna "ddryswch llwyr" ymhlith pobl yng Nghymru sy'n dymuno trefnu gwyliau, oherwydd nifer y profion Covid sy'n angenrheidiol cyn ac ar ôl teithio dramor a'r gwaith papur.

"Dydyn nhw ddim yn ymrwymo i ddim byw oherwydd yr holl reolau," meddai, er bod cynnydd yn nifer yr ymholiadau yn sgil y sefyllfa yn Lloegr.

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig: Russell George: "Er mwy i bawb wybod beth yw'r rheolau a glynu atyn nhw, dylid cael un polisi ar draws y DU o ran pwy sy'n gorfod bod mewn cwarantîn ar sail ei statws brechu."

Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan mae yna bosibilrwydd mai teithiau tramor fyddai'r "ffordd y byddwn ni'n gweld yr amrywiolion newydd all, o bosib, wrthsefyll ein brechlynnau".

Ychwanegodd: "Rwy'n meddwl bod angen i bobl ddeal bod y sefyllfa'n dal, mewn gwirionedd, yn ansicr iawn."