Amser i lacio holl gyfyngiadau Cymru, medd arbenigwr

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'n ddigon saff bellach i godi cyfyngiadau Covid a dechrau dychwelyd i fywyd arferol, meddai'r Athro John Watkins

Mae'n amser bellach i ddod â chyfyngiadau Covid yng Nghymru i ben, yn ôl arbenigwr blaenllaw ar glefydau heintus.

Dywedodd yr epidemiolegydd ymgynghorol Yr Athro John Watkins fod y cyswllt rhwng achosion Covid, niferoedd yn yr ysbyty a marwolaethau "yn bendant" wedi torri bellach.

Ychwanegodd fod lefel yr imiwnedd yn y boblogaeth wedi cyrraedd lefel ble roedd hi'n saff i godi cyfyngiadau ar fywyd pob dydd.

Ddydd Sul dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd pobl yng Nghymru yn dal yn gorfod gwisgo mygydau mewn rhai llefydd "tra bo'r coronafeirws yn parhau i beri bygythiad i iechyd y cyhoedd".

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfradd achosion Cymru yn parhau i fod yn is na phob rhan arall o'r DU, er bod nifer y cleifion sydd yn yr ysbyty gyda Covid wedi codi ychydig dros yr wythnos ddiwethaf.

Mae'r nifer sydd yn yr ysbyty â Covid yn parhau i fod yn agos at y lefelau isaf ers dechrau'r pandemig, fodd bynnag, yn ogystal â'r niferoedd sydd mewn gofal dwys.

'Patrwm positif'

Mae'r Athro Watkins o Brifysgol Caerdydd yn arbenigo mewn epidemioleg anadlol a chlefydau heintus, ac wedi bod yn cynghori llywodraethau Cymru a'r DU.

Dywedodd fod y brechlynnau wedi bod yn effeithiol iawn wrth atal pobl rhag mynd yn sâl iawn o Covid, gan gynnwys yr amrywiolyn Delta.

"Mae nifer sylweddol o oedolion bellach wedi cael eu brechu ac rydyn ni'n gwybod fod y brechlyn yn lleihau trosglwyddiad yn ogystal ag effeithiau gwael," meddai.

"Rydyn ni'n gwybod hefyd bod pobl ifanc, sy'n cynrychioli trwch yr achosion ar hyn o bryd, hefyd yn llai tebygol o weld effeithiau gwael, ac felly rydyn ni mewn lle cymharol dda i ailagor cymdeithas."

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Yr Athro Watkins fod imiwnedd praidd wedi dod yn "air budr" ond bod gwerth i'r syniad

Er bod nifer yr achosion wedi cynyddu'n ddiweddar, dywedodd Yr Athro Watkins fod y modelu diweddaraf yn awgrymu fod Cymru'n dilyn "patrwm positif".

Mewn ymateb i'r rheiny sydd wedi awgrymu bod yn fwy gofalus wrth godi cyfyngiadau, dywedodd: "Yng ngeiriau'r prif weinidog [Boris Johnson], pryd fyddai'r adeg orau felly?

"Dwi'n meddwl bod wastad angen cydbwyso'r risg, a dwi'n meddwl ein bod ni wedi gwarchod y rheiny sydd fwyaf bregus yn erbyn y feirws yma."

Amddiffyn imiwnedd praidd

Dywedodd Yr Athro Watkins mai bwriad gwreiddiol y cyfyngiadau oedd i warchod y gwasanaeth iechyd, "a dwi'n meddwl ei fod o wedi ei warchod bellach mor bell ag y mae modd gwneud".

"Felly 'dyn ni'n cyrraedd pwynt ble mae'n rhaid byw gyda throsglwyddo'r feirws a dwi'n meddwl mai nawr yw'r adeg," meddai.

"Yng Nghymru mae nifer y marwolaethau o bobl brofodd yn bositif yn y 28 diwrnod diwethaf yn ddim mwy nag un neu ddau y dydd bellach, a rhai dyddiau does dim o gwbl.

"Mae ein hysbytai mewn lle da o ran achosion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y cyfyngiadau'n codi yn y pen draw - ond a fydd rhai pobl dal yn betrusgar am fynd allan?

"Dwi'n meddwl dros yr wythnosau nesaf wrth i ni ddechrau ailagor bydd y don yma o achosion yn pasio ac fe fyddwn ni'n gweld a ydyn ni ar y llwybr iawn, ond mae'r data yn awgrymu ein bod ni."

Dywedodd Yr Athro Watkins fod y syniad o imiwnedd praidd wedi dod yn "air budr" ond na ddylid ei ddiystyru fel teclyn i sicrhau imiwnedd o fewn y boblogaeth, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.

"Nid mater o weld y cryfaf yn goroesi a'r gwanaf yn cael eu taflu i'r bleiddiaid ydi o, mae e i wneud gyda'r ffaith bod y praidd yn amddiffyn y gwanaf," meddai.

"Felly unwaith mae gennych chi lefel benodol o amddiffyniad o fewn y boblogaeth, does gan y feirws ddim llawer o lefydd i fynd."

Pobl petrusgar

Wrth drafod mygydau, dywedodd Yr Athro Watkins y dylen nhw barhau i gael eu defnyddio mewn amgylcheddau meddygol ond y dylai elfen o ddewis personol fod yn wir am lefydd risg isel, fel fydd yn digwydd yn Lloegr.

Gallai cysgod y cyfyngiadau a'r cyfnodau clo hefyd effeithio ar bobl y tu hwnt i bryderon am iechyd ac arian, meddai, gan wneud problemau sydd eisoes yno yn waeth.

"Mae ochr arall i hyn sef bod [rhai] pobl ofn mynd allan ac ofn dychwelyd i normal," meddai.

"Felly mae cwestiynau pellach, nid yn unig am ailagor cymdeithas ond ynghylch pa mor barod mae pobl i gymryd rhan mewn cymdeithas agored eto.

"Mae cyfran o'r boblogaeth fydd ddim o reidrwydd eisiau gwneud hynny."

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi croesawu sylwadau'r Athro Watkins am ailagor cymdeithas

Mewn ymateb dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Russell George, fod angen gwrando ar "ymyrraeth sylweddol" Yr Athro Watkins.

"Bydd pobl yn deall na fydd unrhyw ddyddiad sy'n cael ei ddewis gan weinidogion yn dod â dim risg o gwbl," meddai.

"Yn anffodus, ni allwn ddileu Covid-19 ac wrth i ni symud ymlaen, mae arbenigwyr yn glir y bydd yn rhaid i ni ddysgu i fyw efo'r haint fel yr ydyn ni'n ei wneud yn barod efo firysau eraill.

"Cyn adolygiad yr wythnos hon, rydym yn gobeithio y bydd gweinidogion Llafur yn dewis rhoi eglurder, gobaith a chynllun manwl i deuluoedd, gweithwyr a busnesau am sut i adfer rhyddid yng Nghymru."