Gwaharddiad AS Delyn am aflonyddu rhywiol yn dod i ben

Ffynhonnell y llun, TÅ·'r Cyffredin

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Rob Roberts ei wahardd am chwe wythnos am aflonyddu ar aelod o'i staff

Mae Aelod Seneddol Delyn, a gafodd ei wahardd am aflonyddu rhywiol, yn cael dychwelyd i San Steffan ddydd Iau er gwaethaf galwadau arno i ymddiswyddo.

Ond mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall bod y blaid Geidwadol wedi dweud wrtho am gadw draw o DÅ·'r Cyffredin er bod y gwaharddiad ar ben.

Cafodd Rob Roberts ei atal o'r senedd am chwe wythnos wedi i banel annibynnol ganfod ei fod wedi torri'r cod ymddygiad gan aflonyddu aelod o'i staff.

Dydy Mr Roberts ddim wedi ymateb i geisiadau gan Â鶹ԼÅÄ Cymru am sylw.

Dim deiseb adalw

Cafodd AS Delyn ei wahardd ym mis Mai am chwe wythnos, ond ni wynebodd ddeiseb adalw - sy'n gallu arwain at isetholiad - am fod y gosb wedi'i rhoi gan banel annibynnol, yn hytrach na phwyllgor seneddol.

Mae ei waharddiad yn dod i ben ddydd Iau, ond mae gwleidyddion blaenllaw o sawl plaid wedi dweud y dylai ymddiswyddo, fyddai'n arwain at isetholiad.

Mae'r dyn a gafodd ei aflonyddu ganddo wedi dweud bod y ffaith fod Mr Roberts yn cael dychwelyd yn dangos bod angen diwygio'r broses ddisgyblu.

Mae'r chwip Geidwadol wedi'i thynnu oddi arno, felly bydd yn dychwelyd fel AS annibynnol, ond mae'n parhau'n aelod o'r Blaid Geidwadol.

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd Rob Roberts ei ethol fel Aelod Seneddol Delyn yn 2019

Mae Arweinydd TÅ·'r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg yn edrych ar y posibilrwydd o newid y rheolau er mwyn sicrhau y byddai deiseb adalw yn deillio o unrhyw waharddiad yn ymwneud ag aflonyddu rhywiol neu fwlio yn y dyfodol, hyd yn oed os ydy hynny gan y panel annibynnol.

Dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ddydd Mercher bod "loophole amlwg, a dydw i ddim yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid ei gau".

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru'n deall nad ydy Llywodraeth y DU eisiau i hynny fod yn weithredol ar gyfer achosion blaenorol - fel un Rob Roberts.

Ond mae'r Blaid Lafur yn edrych ar ffyrdd i gynnal pleidlais fyddai'n caniatáu i unrhyw newidiadau gael eu gweithredu yn erbyn Mr Roberts.

'Annheg iawn ar ei etholwyr'

Dywedodd y dyn a gafodd ei aflonyddu gan Mr Roberts ei fod yn "siomedig" na fyddai deiseb adalw yn deillio o'i waharddiad.

"Os ydy panel yn derbyn cwyn yn erbyn AS, ni ddylai fod yn sefyllfa ble maen nhw'n gallu cymryd saib ac yna dod yn ôl," meddai.

"Mewn unrhyw ddiwydiant arall fe fydden nhw'n cael eu diswyddo, neu yn achos AS, bod yn destun deiseb adalw."

Ychwanegodd ei fod yn cefnogi'r galwadau ar Mr Roberts i ymddiswyddo.

"Dwi'n meddwl ei fod yn annheg iawn ar ei etholwyr - dydw i ddim yn meddwl y gallan nhw gael unrhyw ffydd ynddo i'w cynrychioli."

Dywedodd bod angen i'r achos yma fod yn "gynsail" ar gyfer sut i ddelio gydag achosion tebyg yn y dyfodol, a bod y broses ar hyn o bryd yn cymryd yn llawer rhy hir i arwain at ganlyniad.

Mae'r Blaid Geidwadol wedi cael cais am sylw.