Â鶹ԼÅÄ

Sally Holland: 'Angen newid rheol mygydau yn yr ystafell ddosbarth'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images

Dylai'r argymhelliad i wisgo mygydau mewn ystafelloedd dosbarth gael ei newid "ar unwaith", yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Galwodd Sally Holland hefyd am roi'r gorau i ynysu torfol o'r ysgol a chyflwyno dull wedi'i dargedu'n well.

Dywedodd fod cyfyngiadau ar blant mewn ysgolion "ddim yn cydweddu o gwbl" gyda'r rhyddid sy'n cael ei roi i oedolion.

Ddydd Llun, cyhoeddwyd cynlluniau gan y gweinidog addysg, Jeremy Miles i ganiatáu i ysgolion lacio neu dynhau mesurau yn ôl risg leol.

"Mae oedolion yng Nghymru nawr yn medru eistedd mewn tafarn gyda ffrindiau o chwe aelwyd wahanol, heb orfod gwisgo gorchudd wyneb, tra bod y mwyafrif o ddisgyblion uwchradd yn gorfod gwisgo gorchudd wyneb dwy'r dydd, bob dydd, pan yn eistedd, er y wybodaeth sydd gennym am yr effaith ar eu haddysg," meddai Sally Holland.

Ychwanegodd fod mygydau yn parhau i effeithio ar ddysgu a phrofiad addysgol pobl ifanc ac os nad yw'n bosib cael gwared arnyn nhw ar unwaith, yna dylid eu dileu erbyn dechrau'r tymor nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jeremy Miles y byddai'r llywodraeth yn disgwyl i ysgolion weithredu "mor normal â phosib" erbyn yr hydref

Roedd gofynion hunan-ynysu torfol ar gyfer pobl ifanc hefyd yn niweidiol, meddai, ac mae wedi galw am ddull sydd "wedi'i dargedu" - yn debyg i'r hyn sy'n cael ei dreialu yn Lloegr ar hyn o bryd.

Mae'r cynllun peilot yn Lloegr wedi bod yn defnyddio profion dyddiol mewn ymateb i achosion Covid, yn hytrach na bod grŵp ehangach o ddisgyblion yn gorfod ynysu.

Ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles mai mater i ysgolion, colegau a phrifysgolion unigol fyddai penderfynu ar eu rheolau diogelwch Covid eu hunain yn y dyfodol - fel pellhau cymdeithasol, masgiau wyneb a phrofi - gan ddilyn fframwaith cenedlaethol.

Mae undebau a gwleidyddion wedi dweud bod diffyg eglurder ynglŷn â chyhoeddiad Mr Miles.

Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg, Bethan Lewis

Roedd 411 o brofion Covid positif ymhlith staff ysgolion a disgyblion yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru - i fyny o 292 yn y saith diwrnod blaenorol.

Mae'r niferoedd uchaf yn dal i fod yng ngogledd Cymru, sy'n cyfrif am 206 o'r profion positif.

Ond mae'r llun yn parhau i fod yn gymharol sefydlog mewn rhai rhannau eraill o Gymru.

Mae data Llywodraeth Cymru ar wahân yn rhoi cipolwg ar effaith achosion positif.

Mae'r ffigyrau diweddaraf o 24 Mehefin yn dangos bod 12,645 o ddisgyblion yn absennol o'r ysgol am reswm cysylltiedig â Covid. Dyna 3.2% o bron i 400,000 o ddisgyblion.