Â鶹ԼÅÄ

Penderfyniadau lleol ynglŷn â mesurau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Tri myfyriwr wrth eu desgiau arholi yn gwisgo mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd ysgolion unigol yn cael yr hawl i wneud penderfyniadau ynglŷn â rhai o'r mesurau Covid sydd yn rhaid i'w dilyn y tymor nesaf.

Yn ôl risg, byddai hawl gan ysgolion i lacio neu dynhau mesurau fel cadw pellter cymdeithasol, gwisgo mygydau a chynnal profion.

Dywedodd y gweinidog addysg Jeremy Miles y byddai'r 'fframwaith newydd' yn caniatáu mwy o ryddid i ysgolion, ond nad oedd hyn yn golygu cael gwared â chyfyngiadau yn llwyr

Ychwanegodd y byddai'r llywodraeth yn disgwyl i ysgolion "lacio mesurau yn raddol" gydag ysgolion yn gweithredu mor normal â phosib yn yr hydref.

Daw'r cyhoeddiad wrth i nifer yr achosion positif o coronafeirws gynyddu yng Nghymru - yn enwedig yn y gogledd - gyda gwahaniaethau mawr wedi ei amlygu rhwng gwahanol ardaloedd.

Dywedodd Mr Miles y byddai'r fframwaith yn gosod "ystod o fesurau diogelwch yn ddibynnol ar y categori risg."

Byddai hynny, meddai, anarferol wedi ei seilio ar lefelau cymedrol, uchel, ac uchel iawn.

Fe fydd y sustem hefyd yn cael ei defnyddio gan golegau a phrifysgolion

"Tra bod swigod dosbarth neu flwyddyn wedi chwarae rhan bwysig, mae'n rhaid i ni nawr wneud yn siŵr fod y rheolau yn gwahaniaethu rhwng 'swigod' ar un llaw, a chyswllt personol gydag achosion positif ar y llall," meddai.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd ac i ddisgyblion cynradd ac uwchradd Cymru.

Yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol dyw plant sy'n mynd o gynradd i uwchradd heb gael yr un cyfleoedd i wneud y naid yn fwy esmwyth.

Disgrifiad o’r llun,

David Roberts: 'Fe wnawn ni wneud be allwn ni wneud drostyn nhw'

Dywedodd David Roberts, dirprwy bennaeth Ysgol Heol y Celyn yn Rhydyfelin, ger Pontypridd, eu bod fel rheolwyr wedi gwneud yr hyn oedd yn bosib o ran y plant fydd yn symud i Ysgol Garth Olwg.

"Fel arfer base plant wedi dod i 'nabod ffrindiau nawr o ysgolion eraill. Mae pum ysgol yn ein clwstwr ni yn gweithio yn galed iawn ac yn gweithio'n agos gyda'i gilydd.

"Base plant wedi bod i Langrannog llynedd a base nhw wedi bod i Lan-llyn am wythnos fis Ionawr.

"Fase 'na eitha' tipyn o ymweliadau wedi bod efo'r ysgol. Byse nhw wedi bod i'w dosbarthiadau nhw .

"Ond di llawer o hynny ddim wedi digwydd y flwyddyn yma.

"Mae ysgol gyfun ni fan hyn Ysgol Garth Olwg yn ysu i gael y plant ond yn anffodus oherwydd y rheolau, ymweliadau byr sydd 'di bod eleni.

"O ran yr ochr gymdeithasu ma' nhw wedi bod dan anfantais eleni, ma' nhw wedi colli mas ar bethau.

"Ond fe wnawn ni wneud be allwn ni wneud drostyn nhw."