Â鶹ԼÅÄ

'Tebygol iawn': Rhybudd am drydedd don Covid yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eluned Morgan fod yr amrywiolyn Delta yn achos pryder

Mae gweinidog iechyd Cymru wedi dweud ei bod "yn debygol iawn" y bydd trydedd don Covid yng Nghymru a bod hyn yn tanlinellu pwysigrwydd cwblhau'r rhaglen frechu.

Dywedodd Eluned Morgan ar Raglen Dewi Llwyd Radio Cymru fod yr amrywiolyn newydd - amrywiolyn Delta, oedd yn cael ei adnabod fel amrywiolyn India - yn achos pryder.

"Mae'n debygol y cawn ni drydedd ton, y cwestiwn yw pa mor fawr fydd y don yma."

Dywedodd fod y clwstwr yn ardal Llandudno "yn peri gofid ac fe fydd hi yn anodd stopio'r llif o gyfeiriad Lloegr."

"Ond mae'n rhaid pwysleisio pa mor llwyddiannus yw'r cynllun brechu yma gydag 85% o'r boblogaeth wedi cael y dos cyntaf, 45% wedi cael yr ail ddos.

"Mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r firws yma a'r cwestiwn wedyn ydy sut y'n ni yn cadw'r NHS yn ddiogel a bod pobl ddim yn mynd i'r ysbytai mewn niferoedd uchel."

Dywedodd byddai'r pythefnos nesa yn "rhoi cyfle i ni i roi'r brechlyn i 300,000 yn rhagor o bobl a hynny yn rhoi amddiffyniad iddyn nhw hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Mark Drakeford: 'Mwy o fanylion ddydd Llun'

Ddydd Llun bydd y prif weinidog Dywed Mark Drakeford yn rhoi diweddariad o'r amserlen ar gyfer cynnig dos cyntaf o'r brechlyn coronafeirws i holl oedolion Cymru

Eisoes mewn rhannau o Gymru mae dros ddwy ran o dair o oedolion yn y grŵp 18 i 29 oed wedi cael pigiad cyntaf, tra bod mwyn na miliwn o bobl wedi cael ail ddos yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

'Ddim yn rhy hwyr'

Dywedodd y prif weinidog wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales ei fod yn annog y bobl sydd heb gael eu brechu i wneud hynny er mwy diogelu eu hunain yn erbyn yr amrywiolyn Delta.

"Mae yna dystiolaeth, nid ddim ond yng Nghymru ond o lefydd eraill, nad yw'r brechlyn mor bwerus yn erbyn yr amrywiolyn Delta ag y mae yn erbyn yr amrywiolyn Caint, a dyna pam rydym am fwrw 'mlaen mor gyflym.

"Mae hynny er mwyn cynnig pa bynnag amddiffyniad ac y gallwn gydag ail ddos, oherwydd mae dau ddos yn ymddangos i roi bron yr un lefel o amddiffyniad yn erbyn yr amrywiolyn yma."

Dywedodd y byddai'n rhoi mwy o fanylion am frechu rhagor o oedolion ddydd Llun.

"Erbyn hynny bydd gennym yr holl ffigyrau o'r penwythnos a dwi'n gobeithio gallu rhoi dyddiad eithaf manwl o bryd y byddwn yn gallu cynnig dos cyntaf i holl oedolion Cymru.

"Byddwn ddim yn bell o hynny yn yr wythnos nesa sydd i ddod."

Galwodd hefyd ar y rhai oedd heb ateb i gynnig i gael y brechlyn i wneud hynny.

"Dyw hi byth yn rhy hwyr," meddai.