Â鶹ԼÅÄ

Covid: Llacio'n raddol oherwydd pryderon amrywiolyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ffordd Santes Fair, CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd mwy o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored o ddydd Llun 7 Mehefin

Bydd Cymru'n symud i lefel rhybudd 1 o'r cyfyngiadau coronafeirws o ddydd Llun ymlaen, ond ni fydd y newidiadau i gyd yn cael eu gweithredu ar unwaith.

Yn siarad yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod Cymru mewn "sefyllfa dda" wrth symud i lefel rhybudd 1, ond bod angen bod yn wyliadwrus o'r amrywiolyn Delta - sydd hefyd yn cael ei adnabod fel amrywiolyn India.

Disgrifiad,

Digon o ddata am amrywiolyn Delta "i godi pryder"

Nos Iau fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored a bod modd cynnal gweithgareddau awyr agored mawr.

Bydd modd hefyd gynyddu maint aelwydydd estynedig i hyd at dair aelwyd.

Fe fydd Llywodraeth Cymru'n adolygu'r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd eto cyn 21 Mehefin, a bryd hynny y bydd penderfyniad ynglŷn â digwyddiadau o dan do.

Yn ei ddatganiad nos Iau, dywedodd Mr Drakeford: "Hoffwn ddiolch i bawb yng Nghymru am bopeth maen nhw wedi'i wneud i reoli lledaeniad y coronafeirws a chadw cyfraddau'n isel.

"Mae ymddangosiad yr amrywiolyn Delta yn dangos nad yw'r pandemig drosodd eto a bod angen i ni gyd barhau i gymryd camau i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford bod angen parhau i fod yn bwyllog wrth i gyfyngiadau lacio

"Mae tipyn llai o risg o gael eich heintio yn yr awyr agored nag sydd o dan do. Dyna pam y byddwn yn cyflwyno'r newidiadau fesul cam yn ystod y cylch hwn o dair wythnos.

"Bydd hyn yn rhoi cyfle i fwy o bobl fwynhau digwyddiadau awyr agored a manteisio ar yr haf yng Nghymru, wrth i ni barhau gyda'r rhaglen i frechu pob oedolyn."

Mae cyfraddau'r achosion o'r Coronafeirws dros saith diwrnod yn parhau i fod yn isel iawn yng Nghymru a'r gyfradd profion positif yn llai na 1%. Cymru sydd hefyd â'r cyfraddau brechu gorau yn y DU - gyda dros 85% o'r boblogaeth wedi cael un dos a 45% wedi cael y cwrs llawn.

Ond mae pryder cynyddol am ledaeniad yr amrywiolyn Delta mewn sawl ardal yn y DU, yn enwedig gogledd orllewin Lloegr.

Ar hyn o bryd mae 97 o achosion yng Nghymru, gan gynnwys clwstwr yn sir Conwy.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ddywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford mai'r amrywiolyn yw'r rheswm am lacio'n raddol

Yn ateb cwestiwn yn ystod cynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ddydd Gwener am faint o bobl sydd wedi dal yr amrywiolyn Delta ac sydd hefyd wedi derbyn brechlyn yng Nghymru, dywedodd y Prif Weinidog bod "y mwyafrif helaeth" o'r 97 achos yng Nghymru yn bobl sydd ddim wedi cael brechlyn.

Ond dywedodd Mr Drakeford bod rhai pobl sydd wedi dal yr amrywiolyn Delta "wedi cael brechlyn yn y gorffennol".

Dywedodd "nad oes unrhyw dystiolaeth yng Nghymru cyn belled" bod y 97 achos wedi bod angen mynd i'r ysbyty am driniaeth.

Ond wrth sôn am lacio cyfyngiadau'n raddol ychwanegodd: "Ni'n gallu gweld yr amrywiolyn newydd yn lledaenu'n gyflym yn Lloegr ac yn yr Alban hefyd a ni'n mynd i aros am bythefnos i gael mwy o dystiolaeth, i gael mwy o wybodaeth bendant am effaith yr amrywiolyn newydd yma yng Nghymru.

"Os mae pethau'n aros fel y maen nhw heddiw gallwn ni symud ymlaen i agor mwy o bethau o dan do cyn diwedd y seicl presennol.

"Os mae'r sefyllfa'n newid ac mae'r amrywiolyn newydd yn cael effaith arnom ni, ni'n gweld mwy o bobl yn cwympo'n dost, mwy o bobl yn yr ysbytai ac yn y blaen, fe allan ni gymryd hwnna mewn i ystyriaeth [wrth lacio cyfyngiadau]".

Yn ystod y gynhadledd cadarnhaodd Mr Drakeford nad yw cyfyngiadau lleol yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ar gyfer ardaloedd fel Conwy sydd â chyfraddau uchel o'r amrywiolyn Delta, ond fe all fod yn rhan o'i gynlluniau yn y dyfodol yn dibynnu ar y datblygiadau dros yr wythnosau nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd cam cyntaf y symud i lefel rhybudd 1 yn golygu bod y canlynol yn cael ei ganiatáu, o ddydd Llun 7 Mehefin ymlaen:

  • Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus;

  • Gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi'u trefnu, fel cyngherddau, gemau pêl-droed a gweithgareddau chwaraeon, fel grwpiau rhedeg wedi'u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd. Rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol.

Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried newidiadau pellach i'r rheoliadau ar weithgareddau o dan do yn ddiweddarach yn y mis, os bydd amodau iechyd y cyhoedd yn caniatáu.

Maen nhw'n cynnwys:

  • Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau;

  • Cynyddu'r niferoedd a ganiateir ar gyfer digwyddiadau o dan do a chynulliadau wedi'u trefnu o dan do;

  • Agor canolfannau sglefrio iâ.