Llai yn dilyn rheolau Covid yn sgil 'negeseuon cymysg'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae'r cyfyngiadau'n llacio ond mae yna dal nifer o reolau mewn grym i atal achosion coronafeirws

Mae ymchwil yn awgrymu bod nifer y bobl sy'n dilyn rheolau Covid i'r llythyren yng Nghymru wedi gostwng hyd at 33%.

Yn ôl arbenigwr sydd wedi dadansoddi'r canlyniadau mae yna bryder y gallai "negeseuon cymysg" fod wedi achosi dryswch.

Mae un astudiaeth gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL) yn awgrymu bod cydymffurfio llawn wedi gostwng o 60% ym mis Chwefror i 40% ym mis Mai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod amrywiolion newydd yn arwydd clir nad yw'r pandemig ar ben.

Mwy yn cymysgu tu hwnt i'w swigod

Mae astudiaeth arall sy'n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), gan holi pobl am effaith y pandemig a'r cyfyngiadau Covid ar eu lles, hefyd yn awgrymu gostyngiad o ran cydymffurfio'n llwyr â'r rheolau - o 76% ym mis Mawrth i 65% ym mis Mai.

Dywedodd Dr Simon Williams o Brifysgol Abertawe bod ffigyrau'r ymchwil hefyd yn awgrymu bod cyfran y bobl sy'n cymysgu tu hwnt i'w haelwydydd neu swigod hefyd wedi cynyddu yng Nghymru - o 41% ym mis Mawrth i 57% ym mis Mai o ran pobl yn cwrdd â thri neu fwy o bobl.

Serch hynny, dywed astudiaeth UCL, ar sail sgyrsiau gyda 70,000 o bobl ar draws y DU ers dechrau'r pandemig, bod mwyafrif llethol - 91% - "yn dilyn y rheolau ar y cyfan".

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Mae llai o bobl yn "bryderus iawn" erbyn hyn ynghylch dal y feirws, yn ôl ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn ôl arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd diweddaraf ICC, sy'n siarad â 18,000 o bobl ers dechrau'r pandemig, mae cyfran yr oedolion sy'n "bryderus iawn" ynghylch dal Covid wedi gostwng yn sylweddol ers dechrau'r flwyddyn - o 31% i 8%.

Erbyn hyn mae dros ddwy filiwn o bobl yng Nghymru wedi cael un brechiad a thros filiwn wedi cael y cwrs llawn.

Mae'n golygu bod rhaglen frechu Cymru ar flaen y gad drwy'r byd o blith gwledydd gyda phoblogaethau o faint tebyg.

'Diffyg eglurder'

"Ar y cyfan, mae darlun yn dod i'r amlwg dros yr ychydig wythnosau diwethaf," meddai Dr Williams, uwch ddarlithydd pobl a chyfundrefnau yn Ysgol Fusnes Prifysgol Abertawe.

"Yn sicr y misoedd diwethaf, bu gostyngiad mewn cydymffurfio. Rwy'n meddwl bod diffyg eglurder o ran ble rydyn ni yn y pandemig yn rhan fawr o hynny.

"Mae'n achos clasurol o negeseuon cymysg. Ar lefel y DU y neges yw bod yna drywydd di-droi'n-ôl, a bydd yna ailagor pellach ym Mehefin.

"Ar yr un pryd, rydym yn gweld ac yn clywed am gynnydd mewn amrywiolion newydd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Daeth cadarnhad ddydd Iau bod 58 achos o'r amrywiolyn India wedi eu cofnodi yng Nghymru hyd at 26 Mai.

Roedd yna 30 achos o'r amrywiolyn sy'n destun pryder - B.1.617.2 - yn yr wythnos ddiweddaraf.

Cawson nhw eu cofnodi o fewn pob ardal bwrdd iechyd oni bai am Bowys, gan ymddangos yn bennaf o fewn clystyrau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.

Mae disgwyl yr adolygiad nesaf o'r rheolau coronafeirws ar 3 Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud, os bydd amodau'n parhau'n ffafriol, y bydd rhagor o newidiadau'n cael eu hystyried o ran cwrdd â phobl mewn cartrefi preifat a chynyddu nifer y bobl sy'n cael cwrdd tu allan.

'Rhaid parhau i fod yn bwyllog'

Mae'n "foment allweddol" yng Nghymru gan nad yw'n pandemig ar ben, medd Dr Williams.

"Mae gofyn i lywodraethau fod mor glir â phosib yn eu negeseuon bod angen i ni barhau i fod yn bwyllog, a hefyd i sicrhau nad yw rhagor o lacio'n digwydd cyn i ni gael yr amrywiolyn newydd dan reolaeth ar draws y DU," meddai.

"Mae negeseuon cymysg - annog pwyll tra'n llacio mesurau - wedi achosi dryswch a all, yn ei dro, gael effaith negyddol ar gydymffurfio."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Diolch i ymdrechion pawb, Cymru sydd â'r cyfraddau coronafeirws isaf yn y DU.

"Ond nid yw'r pandemig ar ben ac mae'r amrywiolyn India sy'n destun pryder yn atgoffa ni oll pa mor sydyn gall y sefyllfa newid a bod y feirws yma'n llawn syrpreisys annymunol.

"Rydym yn parhau i erfyn ar bobl i ddilyn cyfres syml o reolau, fel cadw'ch pellter, golchi'ch dwylo'n rheolaidd, gwisgo mwgwd dan do ac awyru gofodau i gadw eich hun, eich anwyliaid a Chymru'n ddiogel."