Â鶹ԼÅÄ

'Angen i ymwelwyr o Loegr gael profion Covid cyson'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Indian VariantFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i drigolion wyth ardal deithio cyn lleied â phosib

Mae Llywodraeth Cymru yn annog ymwelwyr sy'n dod i Gymru o ardaloedd yn Lloegr lle mae cyfraddau uwch o'r coronafeirws i gael profion cyson.

Dywed y Prif Weinidog, Mark Drakeford y dylai ymwelwyr sy'n bwriadu ymweld â Chymru yn fuan bacio profion llif unffordd.

Mae Llywodraeth y DU wedi gofyn i bobl sy'n byw mewn wyth ardal yn Lloegr lle mae nifer yr achosion o amrywiolyn India yn uchel - Bolton, Blackburn, Kirklees, Bedford, Burnley, Caerlŷr, Hounslow a Gogledd Tyneside i deithio cyn lleied â phosibl allan o'r ardal.

Ond nid yw'r cyngor yn gwahardd teithio y tu hwnt i'r ardaloedd hyn.

'Angen diogelu Cymru'

Ar drothwy gwyliau'r Sulgwyn dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: "Bydd ein busnesau twristiaeth yn edrych ymlaen at wythnos brysur a dechrau tymor yr haf.

"Rwy'n annog unrhyw un sy'n bwriadu dod ar wyliau i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o'r coronafeirws i brofi eu hunain yn rheolaidd, gan ddefnyddio'r profion llif unffordd am ddim, cyn iddynt deithio.

"Dim ond y rhai sy'n cael canlyniad prawf negatif ac sydd heb symptomau'r coronafeirws ddylai deithio.

"Dylai pawb sy'n dod i Gymru o ardal sydd â chyfraddau uwch o'r coronafeirws ddod â phecynnau profion llif unffordd gyda nhw i barhau i brofi eu hunain yn rheolaidd tra byddant ar wyliau.

"Mae hyn yn gam ychwanegol i helpu i ddiogelu Cymru. Mae pecynnau profion llif unffordd hefyd ar gael yn lleol ledled Cymru."

Ffynhonnell y llun, Ymddiriedolaeth Iechyd Bolton
Disgrifiad o’r llun,

Mae 41 claf yn cael triniaeth ar gyfer Covid mewn ysbyty yn Bolton ar hyn o bryd

Mae'r ffigurau diweddaraf yn nodi bod dros 3,200 o achosion o amrywiolyn India yn Lloegr. Mae 57 o achosion yng Nghymru.

Ychwanegodd y Prif Weinidog: "Drwy gydol y pandemig, mae patrwm clir a chyson yn lledaeniad y coronafeirws ar hyd coridorau teithio wedi dod i'r amlwg. Mae hyn yn wir o fewn Cymru; ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

"Mae'r feirws yn symud gyda phobl, ac mae pobl yn dod â'r feirws i ardaloedd newydd wrth iddynt symud o gwmpas.

"Ein rhaglen frechu lwyddiannus yw'n llwybr gorau allan o'r pandemig hwn. Rwy'n annog pawb i barhau i fod yr un mor ofalus ac i fabwysiadu'r un ymddygiadau diogelu ag rydym wedi'u gwneud drwy gydol y pandemig, wrth inni barhau i frechu gweddill y boblogaeth sy'n gymwys yng Nghymru."