Cyfnod ynysu disgyblion Glan Clwyd ar ben yn gynt na'r disgwyl

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Ddinbych

Disgrifiad o'r llun, Mae'r sawl a gafodd ganlyniad positif o Covid-19 bellach wedi cael prawf negyddol

Mae disgyblion ysgol uwchradd yn Llanelwy'n cael dychwelyd i'r dosbarth yn gynt na'r disgwyl wedi cyfnod o hunan-ynysu rhag coronafeirws.

Cafodd 249 o ddisgyblion yn Ysgol Glan Clwyd, o flwyddyn 10 yn bennaf, orchymyn yn wreiddiol i ynysu tan ddydd Llun, 17 Mai wedi i ganlyniad Covid-19 positif gael ei gofnodi dros y penwythnos.

Maen nhw bellach yn cael dychwelyd i'r ysgol am wersi wyneb yn wyneb ddydd Mercher, 12 Mai wedi i brawf pellach ddod yn ôl yn negyddol.

Mae'r penderfyniad yn dilyn cydweithio rhwng yr ysgol, Cyngor Sir Ddinbych, Iechyd Cyhoeddus Cymru a gwasanaeth olrhain y GIG.

Mewn datganiad, dywedodd y cyngor eu bod "bellach yn fodlon nad yw'r myfyrwyr y gofynnwyd iddynt ynysu, wedi bod yn agored i'r feirws yn yr ysgol ac mae'n ddiogel iddynt ddychwelyd i weithgareddau arferol".

Ond mae gofyn i rieni a gwarcheidwaid "barhau'n effro i brif symptomau" coronafeirws.

Mae yna gyngor hefyd i'r rhai fu'n hunan-ynysu archebu prawf os ydyn nhw'n datblygu peswch newydd neu barhaus, tymheredd uchel, neu'n cael unrhyw newid i'r arogl neu'r blas.