Â鶹ԼÅÄ

249 disgybl yn Ysgol Glan Clwyd i hunan-ynysu

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysgol Glan ClwydFfynhonnell y llun, Denbighshire council
Disgrifiad o’r llun,

Daeth cadarnhad bod achos positif o Covid-19 wedi ei gysylltu ag Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy

Mae 249 o ddisgyblion mewn ysgol uwchradd yn Sir Ddinbych wedi cael gorchymyn i hunan-ynysu yn dilyn cadarnhad o achos positif o Covid-19.

Mae'r disgyblion, o flwyddyn 10 yn bennaf, yn Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy wedi cael gwybod bod rhaid iddyn nhw ynysu tan 17 Mai.

Mewn datganiad fore Llun dywedodd Cyngor Sir Ddinbych: "Bydd angen i 213 o ddisgyblion o ddisgyblion blwyddyn 10 a 34 ychwanegol o flynyddoedd eraill yn Ysgol Glan Clwyd ynysu eu hunain tan 17 Mai yn dilyn cadarnhad o achos Covid-19 sy'n gysylltiedig â'r ysgol.

"Mae'r holl rieni a gofalwyr wedi cael gwybod ac mae'r ysgol a'r awdurdod yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae Ysgol Glan Clwyd yn parhau i fod ar agor i bob disgybl arall ac mae'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Awdurdod Lleol a gwasanaeth Profi Olrhain Diogelu GIG Cymru i sicrhau bod yr holl fesurau priodol ar waith i amddiffyn myfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach."

Mae disgyblion blwyddyn 10 a hÅ·n mewn ysgolion ar draws Cymru wedi bod yn gwneud profion Covid cyflym adre, gyda'r cynllun wedi cael ei ymestyn i disgyblion blynyddoedd 7,8 a 9 mewn sawl ardal hefyd.

Pynciau cysylltiedig