Caniatáu hyd at 4,000 o bobl i gêm Cymru a 500 i Tafwyl

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dyw Cymru heb chwarae o flaen cefnogwyr yn Stadiwm Dinas Caerdydd ers mis Tachwedd 2019, pan guron nhw Hwngari i fynd drwodd i Euro 2020

Bydd hyd at 4,000 o gefnogwyr yn cael mynd i wylio gêm fyw rhwng Cymru ac Albania yng Nghaerdydd fis nesaf.

Mae'n rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru i ganiatáu pobl mewn i nifer o ddigwyddiadau dros yr wythnosau i ddod.

Bydd 500 o bobl hefyd yn cael mynd i ŵyl gelfyddydau Tafwyl yn y brifddinas ar 15 Mai, mae'r llywodraeth wedi cadarnhau.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd rheoli'r digwyddiadau yn "ddiogel a llwyddiannus gobeithio yn caniatáu i gynulliadau mwy yn ôl i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn hwyrach eleni".

Yn y cyfamser, bydd cynulleidfaoedd o wahanol faint yn cael bod yn bresennol i gemau pêl-droed Casnewydd, Abertawe a gêm griced Morgannwg.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall

Disgrifiad o'r llun, Bydd y golygfeydd yn debycach i Tafwyl 2019 eleni, ond ddim yr un fath

Daeth cadarnhad ddydd Llun bod Cymru, fel gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig, yn symud i lefel rhybudd tri o'r cynllun i reoli coronafeirws yn dilyn cyfarfod o holl brif swyddogion meddygol y llywodraethau.

Mae cyfradd yr achosion positif o Covid-19 yng Nghymru'n parhau'n isel - o dan 9 o bobl fesul 100,000 o'r boblogaeth dros saith diwrnod.

Dyma'r naw digwyddiad prawf peilot sydd wedi'u cyhoeddi:

  • Eid-al-Fitr: 12-14 Mai (union ddyddiad eto i'w gadarnhau), Caerdydd - 300 i 500 yn bresennol;
  • Gŵyl Tafwyl: 15 Mai, Caerdydd - 500;
  • Gêm Adran Dau Clwb Pêl-droed Casnewydd: 18 Mai, Rodney Parade;
  • Digwyddiad busnes ICCW: 20 Mai, Casnewydd - 100 dan do;
  • Gêm y Bencampwriaeth Clwb Pêl-droed Abertawe: 22 Mai, Stadiwm Liberty;
  • Theatr Brycheiniog: 3-4 Mehefin, Theatr Brycheiniog Aberhonddu - 250;
  • Morgannwg v Sir Gaerhirfryn: 3-6 Mehefin, Gerddi Sophia, Caerdydd - 750-1,000;
  • Cymru v Albania: 5 Mehefin, Stadiwm Dinas Caerdydd - 4,000;
  • Triathlon Abergwaun: 11-12 Mehefin, Abergwaun/TÅ· Ddewi - cystadleuwyr cofrestredig yn unig.

'18 mis hir ac anodd'

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Mae wedi bod yn 18 mis hir ac anodd i'r diwydiant digwyddiadau yng Nghymru - i berchnogion digwyddiadau, y rhai sy'n dibynnu ar y sector am y gwaith - ac i'r rhai sy'n hiraethu am weld digwyddiadau byw yn dychwelyd i Gymru.

"Wrth i ni edrych ar godi'r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, rydym wedi gweithio'n agos gyda threfnwyr digwyddiadau i sefydlu rhestr o ddigwyddiadau prawf peilot sy'n cynnwys amrywiaeth o wahanol leoliadau a mathau o ddigwyddiadau.

"Mae'r gwaith hwn yn dod â ni gam yn nes at ddychwelyd i ddigwyddiadau yng Nghymru, hoffwn ddiolch i berchnogion y digwyddiadau a'r Awdurdodau a byrddau iechyd Lleol am eu hymrwymiad i weithio gyda ni a dymuno'n dda iddynt dros yr haf.

"Mae'r digwyddiadau hyn yn wahanol iawn o ran natur a lleoliad ond mae mynediad i fynychwyr - boed yn gyfranogwyr neu'n wylwyr - yn cael ei reoli'n llym gan y trefnwyr a'i gytuno ymlaen llaw.

"Rydyn ni'n gofyn i bobl ddathlu Eid yn wahanol eto eleni. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd dathliadau yn y castell yn cael eu mwynhau gan y rhai sydd â thocynnau. Os nad oes gennych docyn, dathlwch yn ddiogel gyda'ch cartref agos neu o fewn swigod cymorth."

"Os nad oes gennych docyn, dathlwch yn ddiogel gyda'ch cartref agos neu o fewn swigod cymorth."