Â鶹ԼÅÄ

Ailddechrau trafod rheolau Covid-19 wrth symud i lefel 3

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Mark DrakefordFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i Mark Drakeford gael ei ethol yn Brif Weinidog ddydd Mercher

Mae cabinet Mark Drakeford yn trafod pa gyfyngiadau Covid-19 fydd yn cael eu codi wrth i weinidogion gwrdd am y tro cyntaf ers yr etholiad.

Mae un gweinidog wedi dweud y byddai gwyliau tramor yn cael eu trafod.

Eisoes mae Mr Drakeford wedi amlinellu cynlluniau i ganiatáu i dafarndai a bwytai wasanaethu cwsmeriaid y tu mewn o 17 Mai.

Daeth cadarnhad ddydd Llun bod Cymru, fel gweddill gwledydd y Deyrnas Unedig, yn symud i lefel rhybudd tri o'r cynllun i reoli coronafeirws yn dilyn cyfarfod o holl brif swyddogion meddygol y llywodraethau.

Fore Llun dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, fod y ffigyrau diweddaraf yn galonogol o ran nifer yr achosion o Covid-19.

"Bwriad y review wythnos yma yw cadarnhau beth sy'n mynd i fod yn digwydd wythnos nesaf," meddai wrth gael ei holi ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"Pwrpas y cyfarfod yw edrych ar y cyngor, ac wrth gwrs wedyn cadarnhau beth rydyn ni'n mynd i wneud yn hwyrach ar ôl y cyfarfod.

"Mae'r niferoedd yn gadarnhaol ac mae achosion yn syrthio yn gyson ar draws pob cohort oedran."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ychwanegodd bod "rhaid cofio" mai "cyfyngiadau nid y brechu sy'n caniatáu i lefelau ddod i lawr".

"Yn amlwg, rydyn ni'n disgwyl mwy o drosglwyddiant wrth i ni godi cyfyngiadau.

"Mae'n digwydd wrth lacio cyfyngiadau. Mae'n dangos bod pobl wedi glynu at y rheolau cadw pellter ac yn gwisgo mygydau a bod nhw dal yn bethau pwysig iawn wrth ddelio efo'r feirws."

Symud i Lefel 3

Amser cinio dydd Llun daeth y newyddion y bydd Cymru, fel gweddill gwledydd y DU yn symud i lefel 3 y cynllun i reoli Covid-19.

Daeth y penderfyniad gan brif swyddogion meddygol y DU yn dilyn cyngor gan y Cyd-ganolfan Bioddiogelwch ac "yng ngoleuni'r data diweddaraf".

Fe bwysleisiodd y swyddogion bod y rheolau ar ymbellhau cymdeithasol yn parhau yn eu lle o dan lefel 3, yn ogystal â'r angen i wisgo mygydau o dan do.

Yn ogystal, nid oes hawl o hyd i gwrdd ag unrhyw un mewn cartrefi preifat ag eithrio'r rheiny rydych chi'n byw gyda nhw neu eich aelwyd estynedig.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i bobl gael mynd tu mewn i dafarndai a bwytai o ddydd Llun, 17 Mai ymlaen

Ddydd Sul dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James, fod gwyliau tramor yn "rhan fawr o'r pecyn trafod ar gyfer dydd Llun".

Disgwylir i gyhoeddiad ar unrhyw leddfu cyfyngiadau pellach gael ei wneud ddydd Gwener.

Mae disgwyl i Mr Drakeford gael ei benodi yn ffurfiol fel prif weinidog yn y Senedd ddydd Mercher gydag ad-drefnu cabinet a swyddogaethau eraill yn fuan wedi hynny.

Mae o leiaf un swydd wag i'w llenwi ar ôl i'r cyn-Weinidog Addysg, Kirsty Williams, benderfynu na fyddai'n sefyll yn yr etholiad.

Collodd Llafur un sedd etholaethol yn unig i'r Ceidwadwyr, ond diolch i enillion mewn mannau eraill maen nhw'n mynd yn ôl i Fae Caerdydd gydag aelod ychwanegol o'r Senedd.