Â鶹ԼÅÄ

Cynnig brechlyn yn lle AstraZeneca i bobl dan 40 oed

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Y brechlyn gan AstraZeneca/RhydychenFfynhonnell y llun, Vincenzo Izzo

Ni fydd pobl dan 40 oed yng Nghymru yn cael cynnig brechlyn Rhydychen-AstraZeneca bellach, oherwydd cysylltiad â cheuladau gwaed prin.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am "gadw at yr wybodaeth arbenigol ddiweddaraf" yn dilyn newid yn y canllawiau gan y rheolydd brechlynnau.

Ers dechrau mis Ebrill mae pobl dan 30 oed wedi cael cynnig brechlynnau Pfizer a Moderna oherwydd pryderon ynghylch y risg gan frechlyn Rhydychen-AstraZeneca o geuladau gwaed prin.

Ond mae'r rheolydd brechlynnau y DU, pwyllgor y JCVI, wedi cyhoeddi bod angen i'r rhan fwyaf o oedolion dan 40 dderbyn brechlyn gwahanol i AstraZeneca.

Serch hynny, mae arweinydd rhaglen frechu Cymru, Dr Gill Richardson yn dweud y dylai pobl dan 40 oed sydd wedi cael dos cyntaf o'r brechlyn AstraZeneca gael ail ddos, gan nad yw'r un achos o broblemau wedi ei gofnodi wedi i rywun dderbyn ail ddos.

Un achos yng Nghymru

Mae 242 achos o geuladau gwaed wedi'u darganfod ar ôl rhoi 28.5 miliwn dos o'r pigiad.

Mae'r risg ychydig yn uwch mewn oedrannau iau.

Dywedodd y rheolydd bod lefelau isel o coronafeirws, ac argaeledd brechlynnau eraill, wedi cyfrannu at y penderfyniad i newid y cyngor.

Mae dros 1.2 miliwn o bobl wedi derbyn brechlyn AstraZeneca yng Nghymru ers mis Ionawr, gydag o leiaf un achos o'r ceulad gwaed.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod brechlyn AstraZeneca eisoes wedi arbed miloedd o fywydau, a bod manteision cael y pigiad yn parhau i fod yn fwy na'r risgiau i bobl dros 40 oed.

Disgrifiad o’r llun,

Dr Gill Richardson yn annerch un o gynadleddau coronafeirws Llywodraeth Cymru

Dywedodd Dr Richardson wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru: "Y cysur yw, os rydych wedi cael dos cyntaf ac wedi bod yn iawn ar ôl hwnnw, yna doed dim cofnod o ddigwyddiad prin gydag ail ddos.

"Felly rydym yn eithaf hyderus, gyda'r miliynau o frechlynnau sydd wedi eu defnyddio, os rydych wedi cael dos cyntaf fe allwch chi gael ail ddos."

Ychwanegodd y bydd Cymru'n dal i gyrraedd y nod o gynnig dos cyntaf i bob oedolion erbyn diwedd Gorffennaf, er y cyngor diweddaraf.

Mae'r rhaglen frechu'n mynd "yn arbennig o dda yng Nghymru," meddai.

"Mae gyda ni gyflenwad digonol i weithredu'r newid yma heb effeithio ar ein rhaglen yn ormodol. Ac mae ein holl glinigau wedi gweithredu'r newid erbyn hyn, felly os daw unrhyw un i mewn sydd yn y grŵp oedran 30 i 39, bydden nhw'n cael cynnig y brechlyn Pfizer yn bennaf, a'r Moderna mewn rhai mannau."

Pynciau cysylltiedig