Â鶹ԼÅÄ

Llywodraeth Cymru i 'ystyried' ymchwil ceuladau a brechlyn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae "angen persbectif" ar risg brechlyn AstraZeneca meddai Dr Harri Pritchard

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn "ystyried manylion" cyhoeddiad rheoleiddwyr am sgil effaith brin brechlyn AstraZeneca Rhydychen, ond nad yw'n rhagweld unrhyw effaith ar gynllun brechu Cymru.

Yn Lloegr bydd pobl o dan 30 oed yn cael cynnig brechlyn arall yn lle pigiad AstraZeneca Rhydychen.

Mae hynny ar ôl i'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ganfod y gallai brechlyn AstraZeneca Rhydychen achosi math arbennig o geulad gwaed mewn rhai pobl.

Mae nifer yr achosion o'r ceulad sydd wedi dod i'r amlwg yn llai na phedwar mewn miliwn. Gall y ceulad gwaed hefyd ddigwydd yn naturiol, ac weithiau mae'n sgil effaith haint Covid-19.

Fore Iau, mae'r meddyg sy'n arwain cynllun brechu Cymru wedi dweud y bydd pobl dan 30 yng Nghymru hefyd yn cael cynnig brechlyn arall, ond nid yw'r llywodraeth wedi cadarnhau hynny.

'Monitro trwy'r amser'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod brechlyn AstraZeneca Rhydychen yn parhau yn ddiogel ac yn effeithiol a'i fod eisoes wedi achub miloedd o fywydau.

Ond fe fydd y canfyddiadau newydd yn cael eu hystyried, meddai, wrth i'r llywodraeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru fonitro diogelwch brechlynnau "trwy'r amser".

Ychwanegodd y llefarydd: "Yng Nghymru diogelwch pobl yw'r flaenoriaeth ac fe fyddwn ni ond yn defnyddio brechlynnau pan mae'n gwbl ddiogel i wneud hynny a phan bod y buddiannau yn llawer mwy nag unrhyw risg.

"Brechlynnau yw'r ffordd orau i ni ddod allan o'r pandemig ac maent yn darparu amddiffyniad cryf rhag Covid-19 - mae'n bwysig i bawb, pan fyddant yn cael eu galw, i dderbyn y brechlyn.

"Hyd yma mae 1.5 miliwn o bobl yng Nghymru wedi cael y dos cyntaf o'r brechlyn ac mae 475,000 wedi cael ail ddos.

"Bydd pawb sydd wedi cael y dos cyntaf yn cael ail ddos o'r un brechlyn - beth bynnag eu hoed."

'Risg cymharol gyda hedfan'

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Gill Richardson y byddai pobl dan 30 yn cael cynnig brechlyn gwahanol

Ar Â鶹ԼÅÄ Radio Wales, dywedodd y meddyg sy'n arwain y cynllun brechu yng Nghymru bod yr ymchwil newydd wedi edrych yn ôl ar y cysylltiad rhwng y brechlyn a'r ceuladau gwaed, ond nad yw o reidrwydd yn golygu bod un yn achosi'r llall.

Dywedodd Dr Gill Richardson o Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y risg yn gymharol gyda hedfan neu yrru car am dri mis.

"Fel 'dyn ni'n gwybod mae 'na geuladau sy'n cael eu hachosi drwy gael Covid hefyd ac mae hynny'n risg llawer uwch mewn gwirionedd."

Dywedodd ei bod yn hyderus y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn derbyn y byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dewis y brechlyn mwyaf addas iddyn nhw, ac y byddai pobl yn "synhwyrol".

Ychwanegodd y byddai "pobl dan 30 heb unrhyw ffactorau risg ychwanegol" yn cael "cynnig brechlyn gwahanol fel Pfizer neu Moderna".

Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau hynny.