Â鶹ԼÅÄ

Achosion Covid-19 cartrefi gofal ar eu hisaf

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Cartref gofal

Dim ond 22 o brofion positif am Covid-19 gafodd eu cofnodi mewn cartrefi gofal i'r henoed yng Nghymru yn yr wythnos ddiweddaraf, yn ôl ffigyrau newydd.

Dyma yw'r nifer isaf i gael eu cofnodi ers i brofi wythnosol ddechrau ym mis Medi.

Cofnodwyd y nifer wythnosol uchaf, 1,500, ym mis Ionawr eleni.

Daw wrth i'r nifer o gleifion coronafeirws mewn ysbytai yng Nghymru gyrraedd y lefel isaf ers dechrau'r pandemig.

89% wedi eu brechu'n llawn

Dros Gymru, cafodd 28,500 o breswylwyr a staff cartrefi gofal eu profi yn yr wythnos yn dechrau 26 Ebrill.

Mae'r mwyafrif o brofion yn cael eu prosesu mewn Labordai Goleudy, sydd ddim yn gwahaniaethu rhwng staff a phreswylwyr.

Roedd 14 achos positif o 26,311 prawf aeth i'r labordai yma.

O'r profion gafodd eu prosesu gan y GIG, roedd wyth achos positif o 1,510 prawf ymysg preswylwyr. Roedd niferoedd ymysg staff yn rhy isel i'w cyhoeddi.

Mae cyngor gwyddonol yn nodi y dylid parhau profi mewn cartrefi gofal, er bod 89% o breswylwyr a 75% o staff wedi cael dau frechiad.

Mae ffigyrau gwahanol hefyd yn dangos bod 227 o gleifion Covid mewn gwelyau ysbytai bob dydd ar gyfartaledd yr wythnos diwethaf.

Dyma'r nifer isaf ers dechrau'r pandemig.

Mae nifer yr achosion wedi cwympo 30% o fewn mis a 94% ers cyfnod gwaethaf y pandemig ym mis Rhagfyr.

Yn ôl y ffigyrau mae dros hanner y cleifion sydd dal mewn ysbytai yn rhai sy'n gwella - a ddim yn profi'n bositif am y feirws.

Ddydd Mawrth roedd 120 o gleifion sy'n cael eu cyfri' fel rhai sy'n gwella, a 93 sydd wedi profi'n bositif neu sy'n cael eu hamau o fod â'r feirws.

Yn y cyfamser, tri pherson sy'n derbyn gofal dwys neu ar beiriant anadlu o ganlyniad i'r feirws. Roedd dau yn ardal Caerdydd a'r Fro, ac un yn ardal Bae Abertawe.

Pynciau cysylltiedig