Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Dim un farwolaeth a 47 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
brechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 ei chofnodi gan ffigyrau dyddiol diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe gafodd 47 o achosion newydd o'r feirws eu cadarnhau yng Nghymru mewn 24 awr hyd at fore Iau.

Mae cyfanswm y marwolaethau ers dechrau'r pandemig ar 5,552, a chyfanswm yr achosion positif yn 211,773, yn ôl y dull yma o gofnodi.

Cyfartaledd yr achosion positif dros gyfnod o saith diwrnod bellach yw 9.7 o bobl ar gyfer bob 100,000 o'r boblogaeth.

Mae nifer y bobl sydd wedi cael dos cyntaf o frechlyn Covid bellach yn 1,895,998 - 11,627 yn y 24 awr ddiweddaraf.

Mae 815,043 wedi derbyn y cwrs ​​llawn o ddau ddos - 16,118 yn y 24 awr ddiweddaraf.

Pynciau cysylltiedig