Mount Snowdon neu'r Wyddfa? Uluru neu Ayers Rock?

Tra bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi gohirio'r penderfyniad i ollwng yr enw Saesneg "Snowdon" a dim ond defnyddio "Yr Wyddfa", mae gwledydd eraill hefyd wedi cael trafodaethau tebyg dros y blynyddoedd.

Ac ar draws y byd mae nifer o leoliadau gydag enw Saesneg ac enw yn yr iaith frodorol - a rhai yn gyfuniad o'r ddau...

Uluru/Ayers Rock

Roedd twristiaid a theithwyr yn heidio yn eu miloedd i 'Ayers Rock' - ond bellach mae'n cael ei adnabod yn ffurfiol wrth ei enw Cynfrodorol llawer hŷn.

Uluru ydi'r enw gwreiddiol am y graig sanctaidd yn Awstralia ond yn 1873 fe wnaeth y syrfëwr William Gosse ei galw'n Ayers Rock ar ôl y gwleidydd Syr Henry Ayers.

Cafodd ei ail-enwi'n Ayers Rock/Uluru yn 1993, yna'n Uluru/Ayers Rock yn 2002, ond o fewn y parc cenedlaethol lle mae'r graig wedi ei lleoli maen nhw'n defnyddio'r gair Uluru yn unig.

/dzDZܲԲ/ٳ

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mynydd uchaf ac enwoca'r byd... a chanddo dri enw.

I'r Tibetiaid, Chomolungma ydi enw'r mynydd - sy'n golygu 'mam sanctaidd', tra bod pobl Nepal yn ei galw'n Sagarmāthā - sef 'pen yn yr awyr mawr glas'.

Er bod yr enwau brodorol yn fwy adnabyddus heddiw, Everest ydy'r enw mwyaf cyffredin o hyd ar draws y byd. Fe gafodd y mynydd ei henwi yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ôl Sir George Everest, Syrfëwr Cyffredinol India. Doedd Sir George Everest, a gafodd ei eni ym Mhowys, ddim o blaid yr enw gan nad oedd posib ei ysgrifennu yn yr iaith Hindi.

Ben Nevis/Beinn Nibheis

Mynydd uchaf yr Alban, a'r uchaf ar ynysoedd Prydain, gydag enw Celtaidd wedi ei Seisnigeiddio.

Beinn Nibheis ydi'r enw yng Ngaeleg yr Alban. Ystyr beinn ydy 'mynydd' ac yn ôl rhai mae'r gair nibheis yn golygu cymylau, ac yn rhannu'r un tarddiad â'r gair Cymraeg 'nef'.

Scafell Pike ydy'r unig enw am fynydd uchaf Lloegr, ond o'r hen Norseg daw'r enw. Mae Skallfield yn gyfuniad o skall - sef copa moel, a fiall - sef mynydd. Mae pike yn golygu'r 'rhan uchaf'.

Corrán Tuathail/Carrauntoohil

Ffynhonnell y llun, Colin Park/Creative Commons

Draw yn Iwerddon mae enwau Gwyddeleg am eu mynyddoedd wedi eu Seisnigeiddio yn aml.

Yr enw swyddogol ar fapiau OS am fynydd ucha'r wlad ydi Carrauntoohil.

Corrán Tuathail ydi'r enw Gwyddeleg. Enw dyn ydy Tuathaill, ac mae Corrán wedi ei gyfieithu i gryman neu dant.

Mae llynnoedd yn dilyn patrwm tebyg. Lough Neagh ydi'r enw Saesneg ar lyn mwyaf ynys Iwerddon er enghraifft. Y fersiwn Gwyddeleg ydi Loch nEachach.

Yosemite

Mae enw'r parc cenedlaethol enwog yn yr Unol Daleithiau yn tarddu o'r gair am 'laddwr'. Dyma'r enw oedd yn cael ei roi am lwyth y Miwok, oedd yn byw yno, gan rai o'u gelynion o lwythau eraill.

Enw y Miwok am yr ardal oedd Ahwahnee - sef 'ceg fawr'.

Aotearoa/New Zealand

Ffynhonnell y llun, Daniel Peckham/Creative Commons

Llynedd fe newidiodd cwmni Vodafone y geiriad ar eu ffonau o Vodafone NZ i VF Aotearoa, yr enw brodorol ar y wlad.

Mae asiantaeth cyfathrebu DDB Group New Zealand hefyd wedi newid eu henw i DDB Group Aotearoa.

Aotearoa yw'r gair Māori am y wlad, ac mae'n golygu 'gwlad y cwmwl hir gwyn'.

Daw'r enw Seland Newydd o Nova Zeelandia, yr enw roddodd yr Ewropeaid cyntaf i lanio ar yr ynysoedd - ar ôl rhanbarth Zeeland yn yr Iseldiroedd.

Hefyd o ddiddordeb: