Â鶹ԼÅÄ

Y Cymro cyntaf ar gopa Everest 25 mlynedd 'mlaen

  • Cyhoeddwyd
Caradog Jones ar gopa EverestFfynhonnell y llun, Caradog Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradog Jones yn creu hanes ar 23 Mai, 1995

Mae'n chwarter canrif ers i ddringwr 33 mlwydd oed o Bontrhydfendigaid wireddu ei uchelgais bywyd trwy ddringo mynydd ucha'r byd.

Ond er nad oed o'n sylweddoli ar y pryd, roedd Caradog 'Crag' Jones hefyd yn creu hanes fel y Cymro cyntaf erioed i gyrraedd copa Everest ar 23 Mai, 1995.

Roedd o'n rhan o dîm rhyngwladol dan arweiniad y mynyddwr o Loegr, Henry Todd.

Roedden nhw wedi treulio 10 wythnos ym mynyddoedd yr Himalaya yn paratoi ar gyfer eu taith ar hyd y llwybr gogleddol o ochr Tibet.

Hanner awr ar y copa

Fe gwblhaodd y dringwr 58 oed, sydd yn byw yn Helsby yn Sir Caer erbyn hyn, y ddringfa olaf i'r copa gyda Michael Jorgensen o Ddenmarc.

Roedd y ddau wedi mynd yn brin iawn o fwyd ac ocsigen ac fe dreulion nhw hanner awr ar ben y copa 29,029 troedfedd.

Ffynhonnell y llun, Caradog Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradog 'Crag' Jones yn ardal Ben Nevis

"Y peth pwysig oedd ein bod ni wedi dringo yn y dull oeddan ni eisiau," meddai Crag wrth edrych yn ôl ar ei gamp 25 mlynedd yn ôl.

"Roedd hynny'n golygu peidio cael ein llusgo fyny i'r copa gan dîm o Sherpa ac arweinydd. Fe ddringon ni fel pâr annibynnol, er bod hynny o fewn grŵp mwy.

"Fe wnaethon ni'r gwaith caled, roedd 'na lawer o gario offer trwm ar y cychwyn. Fe helpon ni i sefydlu gwersylloedd, torri platforms, codi pebyll a sortio'r cyflenwadau."

"Antur yn fwy masnachol"

Mae Crag yn teimlo bod dringo wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd oherwydd yr elfen fasnachol.

"Rwy'n credu bod antur ar y cyfan wedi mynd yn rhywbeth mwy masnachol, yn y ffordd ei fod yn cael ei farchnata fel ffordd o fyw.

Ffynhonnell y llun, Caradog Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradog Jones yn dringo Ben Nevis

"Mae pobl wedi cael eu twyllo i gredu mai dim ond prynu antur y gallwch chi, nad ydych chi'n gallu mynd ffwrdd ar eich pen eich hun a threfnu'r pethau yma."

Ond mae o hefyd yn credu bod rhai pethau wedi newid am y gorau, a bod dringo yn rhywbeth sy'n fwy agored i bawb erbyn hyn.

"Haws a rhatach"

"Mae teithio wedi mynd yn haws ac yn rhatach," meddai. "Hefyd mae'r rhagolygon tywydd, yn enwedig ar gyfer mynydda, wedi gwella.

"Roeddech chi'n arfer cerdded yn ddall i ganol storm. Fe gawson ni'n dal ar Everest am dridiau yn y gwersyll top, 8,300 metr i fyny, mewn storm ddrwg, gan olygu bod pen y daith yn ansicr iawn.

"Y dyddiau hyn gyda'r rhagolygon tywydd, rydych chi fel arfer yn gallu bod yn dawel eich meddwl bod ganddoch chi gyfnod clir o'ch blaenau, ac mae hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr o ran y risg sydd ynghlwm."

Ffynhonnell y llun, Caradog Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Caradog Jones yn rhagweld mwy o ddringo lleol yn sgil y cyfyngiadau coronafeirws

Wrth ystyried yr argyfwng coronafeirws presennol, mae Crag yn dweud ei fod yn sicr o gael effaith ar ddringwyr a'r diwydiant ond bod 'na agweddau cadarnhaol allai ddod ohono hefyd.

"Mae wedi cyfyngu ar ein cyfleoedd mewn cymaint o ffyrdd," meddai, "ac mae hynny'n dda i'r amgylchedd am bod 'na lai o hedfan. Mae hynny wastad wedi bod yn rhywbeth negyddol am ddringo rhyngwladol.

"Rwy'n credu y bydd 'na lawer mwy o ddringo lleol. Mae Cymru, yn enwedig, yn un o'r llefydd gorau yn y byd ar gyfer hyn.

"Rwy'n gwybod ei fod yn codi cwestiynau amlwg am beryglon os nad yw pobl yn cadw at reolau ymbellhau ac ati.

"Mae hynny'n rhywbeth fydd angen ei reoli'n ofalus iawn er mwyn atal teimladau drwg o fewn Prydain Fawr oherwydd y gwahanol drefniadau a rheolau sy'n datblygu nawr.

"Mae dringwyr wedi bod yn amyneddgar iawn, maen nhw wedi cadw at a pharchu'r cyfyngiadau ar y cyfan. Felly gobeithio bydd hynny'n parhau."

Ffynhonnell y llun, Caradog Jones
Disgrifiad o’r llun,

Caradog Jones yn dringo ym Moroco

O ran ei gynlluniau dringo ei hun, mae Crag yn gobeithio gallu ailgydio ynddi yn yr hydref os bydd y cyfyngiadau'n llacio.

"Ro'n i wedi hyfforddi drwy'r gaeaf i gadw'n ffit, yn gobeithio am wanwyn da o ddringo, ond wrth gwrs ddigwyddodd hynny ddim!

"Ond rwy'n gobeithio erbyn yr hydref, mae gen i daith wedi'i chynllunio yn Ne Georgia yn Ne'r Iwerydd.

"Os yw pethau'n dechrau clirio erbyn hynny, rydyn ni'n gobeithio gallu mynd lawr yna, ond bydd rhaid disgwyl i weld beth sy'n digwydd."

Gobaith o grwydro eto felly, a'r atgofion am Everest yn sicr yn help i danio'r dychymyg.