Covid-19: Pryd fydd cefnogwyr yn cael dychwelyd yng Nghymru?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Dydy tîm pêl-droed Cymru heb chwarae o flaen Y Wal Goch ers Tachwedd 2019 bellach
  • Awdur, Dafydd Pritchard
  • Swydd, Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru

Mae bron yn flwyddyn a hanner ers i dîm pêl-droed Cymru chwarae gêm gartref o flaen eu cefnogwyr, Y Wal Goch.

Buddugoliaeth o 2-0 dros Hwngari oedd y gêm honno, i sicrhau lle Cymru yn Euro 2020.

Ond oherwydd coronafeirws, cafodd y gystadleuaeth ei gohirio tan yr haf yma - ac mae stadiymau pêl-droed Cymru'n dal i fod yn wag.

Felly pryd fydd torfeydd yn cael dychwelyd?

Digwyddiadau peilot

Mae ambell i gêm yn Lloegr wedi croesawu cefnogwyr yn ôl, gan gynnwys rownd derfynol Cwpan y Gynghrair ddydd Sul diwethaf, lle roedd yna 8,000 yn Wembley i wylio Manchester City yn curo Tottenham.

Mae gemau ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd hefyd wedi cynnwys torfeydd cyfyngedig yn y Crucible yn Sheffield.

Yng Nghymru, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi dweud ei fod e'n gobeithio y bydd cefnogwyr yn dychwelyd i stadiymau chwaraeon yn yr haf, ac mae yna gynlluniau i arbrofi efo digwyddiadau 'peilot' fis nesaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae rheolwr Uwch Gynghrair Cymru yn gobeithio y bydd "cefnogwyr yn ôl yn fuan iawn"

Does yr un cefnogwr wedi bod mewn stadiwn pêl-droed yma ers dechrau'r argyfwng Covid-19, ac mae rheolwr Uwch Gynghrair Cymru, Gwyn Derfel, yn gobeithio bydd hynny'n newid yn fuan.

"Heb gefnogwyr, dydy o ddim yn bêl-droed i bob pwrpas," meddai.

"Felly gobeithio'n wir efo'r cyfyngiadau yma'n llacio, byddan ni'n cael cefnogwyr yn ôl yn fuan iawn.

"Mae'n dibynnu'n llwyr ar y llywodraeth. 'Da ni wedi bod yn cysylltu yn wythnosol efo Llywodraeth Cymru a 'da ni wedi cydweithio ond 'da ni heb gael be 'da ni wedi bod yn gofyn amdano.

"'Da ni jest yn gobeithio rŵan, ar gyfer tymor nesaf, y byddan ni'n dal i barhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru gan bwysleisio'r elfen ariannol ond hefyd yr elfen gymdeithasol sy'n hollbwysig hefyd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Morgannwg wedi gwirfoddoli i gynnal rhai o'r digwyddiadau peilot fis nesaf

Mae'r baich wedi ei deimlo ledled byd y campau yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae clybiau proffesiynol a chyrff rheoli wedi dioddef yn ariannol, tra bod cymunedau ar hyd y wlad wedi dioddef yn gymdeithasol heb chwaraeon amatur.

Rygbi, pêl-droed a chriced yw rhai o'r campau sy'n gobeithio bod yn rhan o'r digwyddiadau peilot fis nesaf, ac mae Clwb Criced Morgannwg wedi gwirfoddoli i gynnal rhai ohonyn nhw.

'Normalrwydd yn dechrau dychwelyd'

"Ar ôl i'r pandemig ganslo cymaint o gemau criced y flwyddyn ddiwethaf, ac atal unrhyw gefnogwyr rhag gwylio'r rhai oedd wedi mynd ymlaen, bydd dilynwyr Morgannwg yn gobeithio dychwelyd i Erddi Sophia cyn bo hir," meddai Ffion Wynne, cricedwr i Gymru a gohebydd gydag adran Chwaraeon Â鶹ԼÅÄ Cymru.

"Mae pedwaredd gêm Morgannwg heb wylwyr yn dechrau ddydd Iau, ond mae dal digon o griced ar ôl yn y calendr, yn enwedig y gystadleuaeth Can Pelen [The Hundred] sy'n dechrau fis Gorffennaf - twrnament newydd ar gyfer dynion a menywod sy'n cynnwys rhai o sêr mwyaf y byd.

"Cafodd y gystadleuaeth ei chanslo llynedd felly bydd pawb yn gobeithio y bydd cefnogwyr newydd a pharhaol yn cael eu caniatáu i wylio yn y stadiwm.

"Mae clybiau criced yn edrych ymlaen at eu gemau cyntaf yng Nghymru'r penwythnos yma hefyd, felly ar gyfer cefnogwyr a chwaraewyr, mae'n teimlo fel bod tipyn bach o normalrwydd yn dechrau dychwelyd."

Beth am Euro 2020?

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae hi'n parhau'n aneglur a fydd cefnogwyr Cymru'n gallu mynychu'r gêm yn Stadio Olimpico Rhufain ar 20 Mehefin

Mae'n haf arwyddocaol i bêl-droed hefyd, wrth i Gymru baratoi am bencampwriaeth Euro 2020.

Bydd yna dorfeydd cyfyngedig yn eu gemau grŵp yn Baku a Rhufain, ond dyw hi dal ddim yn glir faint o gefnogwyr o Gymru - os unrhyw gefnogwyr o gwbl - fydd yn cael teithio yno.

Cyn hynny, mae yna le i gredu bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gobeithio y bydd y gêm gyfeillgar yn erbyn Albania ar 5 Mehefin ymhlith y digwyddiadau 'peilot' lle fydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu rhywfaint o gefnogwyr i fod yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Byddai hynny'n gysur i'r tîm cyn iddyn nhw ddechrau eu hymgyrch Euro 2020 ar hyd y cyfandir, ac yn llygedyn o obaith y bydd y Wal Goch yn ôl yn barhaol - ac yn ei chyfanrwydd - cyn hir.