Â鶹ԼÅÄ

Lle fydd gemau Euro 2020 Cymru yn cael eu chwarae?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Stadio OlimpicoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Stadio Olimpico Rhufain ydy un o'r lleoliadau i Gymru, yn ôl y cynllun gwreiddiol

Mae disgwyl i UEFA gyhoeddi yn y dyddiau nesaf lle fydd gemau Euro 2020 yn cael eu cynnal.

Ond lle fydd Cymru'n chwarae? Ac a fydd cefnogwyr Cymru'n cael mynd yno?

Bydd y gystadleuaeth, gafodd ei gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig, yn cael ei chynnal rhwng 11 Mehefin ac 11 Gorffennaf eleni, ond mae'r gystadleuaeth yn dal i gael ei galw'n Euro 2020.

Gofynnwyd i gymdeithasau pêl-droed sy'n cynnal gemau gyflwyno cynlluniau i dderbyn cefnogwyr erbyn 7 Ebrill.

Mae Llundain, Glasgow, Dulyn, Amsterdam, Copenhagen, St Petersburg, Bilbao, Munich, Budapest, Baku, Rhufain a Bucharest i gyd yn dweud eu bod nhw yn gallu cynnal gemau.

Mae disgwyl i'r trefnwyr, UEFA wneud penderfyniad terfynol ar y dinasoedd fydd yn cynnal gemau mewn cyfarfod pwyllgor gweithredol ar 19 Ebrill.

Cymru, Baku a Rhufain

Bydd cymdeithas bêl-droed Azerbaijan yn caniatáu i Stadiwm Olympaidd y wlad yn Baku, a all ddal 69,000 o gefnogwyr, gael ei lenwi i 50% o'i gapasiti ar gyfer ei dair gêm grŵp ac un rownd yr wyth olaf.

Fe fydd cefnogwyr o dramor yn cael mynychu gemau Euro 2020 yn y wlad os ydy gofynion ar gyfer fisa a lliniaru Covid-19 yn cael eu bodloni.

Daw hyn er iddi gael ei chyhoeddi y bydd Grand Prix Azerbaijan, sy'n cael ei chynnal ar strydoedd Baku, yn cael ei chynnal heb gefnogwyr ar 6 Mehefin - ddyddiau'n unig cyn i Euro 2020 ddechrau.

Ar hyn o bryd bydd Cymru yn chwarae dwy o'u gemau Grŵp A - yn erbyn y Swistir a Thwrci - yn Baku ar 12 a 16 Mehefin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cymdeithas bêl-droed Azerbaijan yn dweud y gallan nhw lenwi 50% o gapasiti'r Stadiwm Olympaidd yn Baku

Yn y cyfamser, bydd gêm agoriadol y gystadleuaeth - rhwng Yr Eidal a Thwrci ar 11 Mehefin - yn digwydd yn Stadiwm Olympaidd Rhufain, os fydd amodau'n caniatáu.

Yn ôl ffederasiwn Yr Eidal (FIGC), bydd y llywodraeth "yn nodi'r atebion gorau" i ganiatáu i gefnogwyr fynychu ei thair gêm grŵp ac un rownd yr wyth olaf.

Dywed y FIGC y bydd Rhufain yn croesawu cefnogwyr, er nad yw nifer y cefnogwyr a fydd yn cael eu caniatáu wedi eu nodi eto, na chwaith a fydd cefnogwyr yn cael mynychu o dramor.

Mae Cymru i fod i herio'r Eidal yn Rhufain ar 20 Mehefin.