Â鶹ԼÅÄ

Covid-19: Tair marwolaeth a 62 achos newydd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
BrechuFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd tair marwolaeth newydd gyda Covid-19 eu cofnodi yn ffigyrau coronafeirws diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Fe gafodd 62 achos newydd eu cadarnhau.

Mae cyfanswm y marwolaethau'n ymwneud â'r haint yng Nghymru yn parhau 5,546 a chyfanswm yr achosion bellach 211,224.

O'r marwolaethau diweddaraf, roedd un yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, un yn rhanbarth Cwm Taf Morgannwg ac un ym Mae Abertawe.

Gan nad yw ICC bellach yn cyhoeddi data ar ddyddiau Sadwrn, mae'r ystadegau gafodd eu rhyddhau ddydd Sul yn berthnasol i'r 24 awr hyd at 09:00 ddydd Gwener.

Bydd diweddariad dydd Llun yn berthnasol i'r 48 awr hyd at 09:00 ddydd Sul.

Mae'r gyfradd achosion dros saith diwrnod fesul 100,000 o'r boblogaeth ar gyfer Cymru gyfan wedi gostwng - o 14.7 i 13.6.

Mae 1,768,585 o bobl bellach wedi cael brechiad cyntaf ac mae 687,049 wedi cael y cwrs llawn.

Mae 1,921,459 o bobl wedi cael prawf coronafeirws yng Nghymru a 3,268,081 o brofion wedi eu cynnal.

Pynciau cysylltiedig