Â鶹ԼÅÄ

Profion cyflym am ddim i bobl na all weithio o adref

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Swab a thiwb prawf coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r profion canlyniadau cyflym yn cael eu cymryd yn y cartref

Bydd unrhyw un yng Nghymru nad sydd mewn sefyllfa i weithio o adref yn gallu cael offer i brofi eu hunain am coronafeirws gartref, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd y profion canlyniadau cyflym ar gael i'w casglu o ganolfannau profi lleol o ddydd Gwener.

Dywed swyddogion eu bod hefyd yn ystyried trefniadau i bobl allu casglu'r offer mewn lleoliadau eraill, yn ogystal â danfon trwy'r post i gartrefi unigol.

Bydd y cynllun profi mewn ysgolion uwchradd hefyd yn cael ei ymestyn i bob disgybl, ac mae trefniadau ar waith i roi brechlyn Covid-19 i bobl sy'n byw gydag unigolion sydd â systemau imiwnedd gwan.

'Mwy hwylus a hygyrch'

Dywed Llywodraeth Cymru bod y mesurau diweddaraf yn gam ymlaen yn y frwydr yn erbyn y feirws, yn enwedig i'r rhai na all weithio o adref.

"Mae gobaith y bydd gwella argaeledd profion canlyniadau cyflym yn gwneud profi pobl heb symptomau'n rheolaidd am coronafeirws yn fwy hwylus a hygyrch i bobl na ddaw dan gynlluniau sy'n bodoli eisoes mewn gweithleoedd, safleoedd gofal plant, ysgolion, colegau a phrifysgolion," medd llefarydd.

Mae'n dilyn cyhoeddiad diweddar gan Ysgrifennydd Iechyd y DU, Matt Hancock yn cynnig dau brawf canlyniadau cyflym yr wythnos i bawb yn Lloegr.

Ymhob safle profi, bydd pobl yn gallu casglu'r offer rhwng 08:00 a 13:00, heb orfod gwneud apwyntiad o flaen llaw.

Bydd y ganolfan yn cau ar gyfer glanhau manwl cyn ailagor ar gyfer profi pobl heb symptomau rhwng 14:00 a 20:00 bob dydd.

Bydd bob person yn gallu casglu dau becyn o saith prawf cartref yn rheolaidd i brofi eu hunain ddwywaith yr wythnos adref.

Mae'r canlyniadau, sydd ond yn cymryd hanner awr, yn cael eu cofnodi ar wefan Llywodraeth y DU.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ar hyn o bryd, mae ysgolion ond yn cynnig y profion i ddisgyblion blynyddoedd 10 i 13 a staff ysgolion uwchradd, am ddim ddwywaith yr wythnos.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ysgrifennu at ysgolion yn dweud bod nifer y profion, sy'n wirfoddol, yn cael eu cynyddu fel bod mwy o hyblygrwydd o ran cynnig profion i ddisgyblion Blwyddyn 7 i fyny o ddydd Llun.

'Anoddach i ymladd heintiau'n naturiol'

Mae'r llywodraeth hefyd wedi cael cyngor gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JVCI) y dylai pobl dros 16 oed sy'n byw gydag "unigolion sydd â systemau imiwnedd sydd wedi gwanhau'n ddifrifol" gael cynnig brechiad Covid-19 fel blaenoriaeth.

Dywed arbenigwyr meddygol bod "oedolion sydd ag imiwnedd gwan yn ei chael yn anoddach i ymladd heintiau'n naturiol ac maen nhw'n fwy tebygol o gael canlyniadau gwaeth yn dilyn haint Covid-19" ac y bydd brechu pobl sy'n gysylltiedig â nhw yn gymorth i atal lledaeniad yr haint yn eu plith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Ar hyn o bryd, nid yw'r JCVI yn cynghori brechu plant sy'n dod i gysylltiad ag oedolion ag imiwnedd gwan.

Mae disgwyl bod oedolion sydd ag imiwnedd gwan eisoes wedi'u brechu fel rhan o grŵp 6 - pob unigolyn rhwng 16 a 64 oed sydd â chyflyrau iechyd sylfaenol fel y'u diffinnir gan y JVCI.

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig bod y blaid "yn falch bod gweinidogion Llafur wedi dilyn camau gweithredol Llywodraeth Geidwadol y DU a chynyddu'r cyfleoedd am brofion". 

Ychwanegodd bod y blaid â chynllun "cynhwysfawr a phwyllog mas o'r mesurau clo ac ein blaenoriaeth yw gweithredu cynllun economaidd i sicrhau bod gweithwyr a busnesau'n dod at eu hunain wedi trafferthion y 12 mis diwethaf."

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru bod ehangu'r cynllun profion yn "gam positif" ond bod "rhaid iddo weithio law yn llaw â chefnogaeth ariannol i'r rhai sy'n hunan-ynysu" wedi i astudiaeth "ganfod mai ond 52% yn y DU sydd wedi hunan-ynysu pan fo angen".

Ychwanegodd bod y blaid wedi galw ar lywodraethau Cymru a'r DU "i gynyddu lefel y gefnogaeth trwy'r grant hunan-ynysu a'r Tâl Salwch Statudol ynghyd ag adnoddau hunan-ynysu penodedig i gynyddu'r lefelau hunan-ynysu yn dilyn prawf positif".

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds bod cynnig profion am ddim "yn ddatblygiad i'w croesawu" i'r rhai sy'n gweithio mewn siopau, bwytai ac ysgolion a byddai'n "ein helpu i ailagor ein gwlad ac economi'n ddiogel".

"Bydd y profion hyn yn helpu cadw gweithwyr allweddol yn saff a rhoi sicrwydd yn y broses i'r cyhoedd," ychwanegodd. "Byddwn yn annog pawb sy'n gymwys i dderbyn y cynnig yma."