'Tirlithriad mawr' yn Nefyn: Annog pobl i gadw draw

Disgrifiad o'r fideo, Dyma'r foment y digwyddodd tirlithriad ar draeth Nefyn

Mae pobl yn cael eu cynghori i gadw draw o draeth yng Ngwynedd ar ôl yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "tirlithriad mawr".

Fe ddigwyddodd ar draeth Nefyn fore Llun.

Dywedodd un sy'n byw gerllaw bod i tirlithriad wedi ysgubo gerddi dau dÅ· ymaith, a bod trigolion un arall gerllaw wedi cael rhybudd i adael eu cartref gan yr heddlu.

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn ymateb i'r sefyllfa ar hyn o bryd, gan annog pobl i gadw draw o'r ardal.

Ffynhonnell y llun, Christian Pilling

Ffynhonnell y llun, Christian Pilling

Dywedodd y llu mewn neges ar Twitter: "Rydym yn ymwybodol fod pobl yn ymgasglu i dynnu lluniau.

"Cynghorir y cyhoedd i osgoi'r ardal hyd nes y clywir yn wahanol, tra mae'r gwasanaethau brys a chwmnïau cyfleustodau yn diogelu'r ardal."

Mae Gwylwyr y Glannau hefyd yn rhoi'r un neges wrth i aelodau eu tîm achub ym Mhorthdinllaen helpu'r heddlu sicrhau bod pobl yn cadw draw o'r ardal sydd wedi'i heffeithio.

Dywedodd llefarydd bod y gwasanaeth wedi derbyn galwad "wedi 12:30 heddiw i adroddiad o gwymp clogwyn yn nhraeth Nefyn".

Ffynhonnell y llun, Joan Coppin

Disgrifiad o'r fideo, Tirlithriad Nefyn: Roedd Mandy Stubbs lathenni o'r clogwyn pan ddigwyddodd y tirlithriad

Dywedodd Joan Coppin, sy'n byw gerllaw: "Fe ddigwyddodd tua 10:30 - mae o wedi cymryd y tir o waelod y tai haf ar Rhodfa'r Môr - mae yna bobl leol i'r dde o'r tai yna ac maen nhw mewn lle go beryg faswn i'n dweud.

"Dwi'n byw yng nghefn y traeth... fe gefais i olwg ac argol fawr mae'n anferth. Rwy'n falch mai heddiw digwyddodd o - dwi wir yn gobeithio bod neb ar goll. Pe bydde fo wedi digwydd ddoe, roedd pobl o gwmpas am ei bod y heulog.

"Dyw'r bobl leol ddim yn mynd yno pan mae'r llanw'n dod i mewn. Mae'r ardal gyfan - tua dwy filltir a hanner - hefo erydiad ac ry'n ni wedi gweld tirlithriadau mawr yno o'r blaen."

'Sioc ein bywydau'

Dywedodd Christian Pilling, o Forfa Nefyn: "Roeddan ni newydd fynd i lawr am dro a wnaethon ni droi rownd a chael sioc ein bywydau.

"Dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw un ar y traeth. Roedden ni wedi mynd lawr yna tua hanner awr ar ôl iddo ddigwydd.

"Mae'n tua 40m o led, ond mae'n anodd dweud."

Ffynhonnell y llun, Joan Coppin

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd brynhawn Llun: "Mae tirlithriad sylweddol wedi effeithio traeth Nefyn gyda rhan sylweddol o'r clogwyn wedi syrthio ar y traeth yn gynharach heddiw.

"Mae swyddogion Cyngor Gwynedd ar y safle efo'r heddlu ac mae camau diogelwch wedi eu cymryd yn cynnwys cyfyngu mynediad i rannau o'r traeth.

"Mae trefniadau ar gyfer cynnal archwiliad cychwynnol o'r clogwyn yn ei le ac rydym yn annog pobl i gadw'n glir ac i beidio mynd yn agos i'r ardal cwymp ar hyn o bryd."

Disgrifiad o'r llun, Dywed cymdogion bod yr eiddo yma - tÅ· haf - wedi colli rhan fawr o'r ardd

Yn ôl y British Geological Survey (BGS) mae Nefyn mewn "parth perygl o gwymp".

Mae'n dweud bod yna "amrywiaeth o fathau o dirlithriadau o fewn Bae Nefyn gan gynnwys methiannau cylchdroadol, llifau, cwympiadau a llithriadau malurion.

"Mae'r llethrau wedi eu gorchuddio â malurion ag ôl tywydd ac mae hyn yn arbennig o agored i dirlithro bas, yn enwedig pan mae'n soeglyd."

Yn 2001, bu farw dynes 58 oed, Shirley Race ac fe gafodd ei gŵr, Donald, 63, anaf difrifol pan gafodd eu car eu .