Â鶹ԼÅÄ

Cyngor i bobl adael eu cartrefi wedi tirlithiad yn Nyffryn Conwy

  • Cyhoeddwyd
Tirlithriad CrafnantFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae preswylwyr naw eiddo yn Nyffryn Conwy wedi cael cyngor i adael eu cartrefi yn dilyn "tirlithriad sylweddol" wedi Storm Ciara.

Mae'r tirlithriad yn ardal Crafnant ger Trefriw.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae "pryder bod yr ardal hon yn parhau i fod yn ansefydlog a bod perygl uniongyrchol i eiddo a phriffyrdd yn yr ardal".

Bydd staff CNC ac "arbenigwyr geowyddoniaeth a pheirianneg" yn monitro'r tirlithriad dros y penwythnos gan fod disgwyl rhagor o law yn ystod Storm Dennis.

Ffynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae CNC a Chyngor Sir Conwy wedi gofyn am gymorth gan beirianwyr arbenigol mewn ymateb i'r sefyllfa.

"Rydym yn gweithio'n gyflym gyda nifer o bartneriaid i fonitro'r tirlithriad a chanfod a oes unrhyw symudiadau," meddai Sian Williams, pennaeth gweithrediadau CNC yn y gogledd-orllewin.

"Yn y cyfamser, mae Heddlu Gogledd Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a CNC wedi cynghori preswylwyr naw eiddo i adael eu cartrefi gan fod pryder bod yr ardal hon yn parhau i fod yn ansefydlog a bod perygl uniongyrchol i eiddo a phriffyrdd yn yr ardal.

"Mae ffyrdd a llwybrau ar gau, ac rydym yn cynghori pobl i gadw draw o'r ardal."