Â鶹ԼÅÄ

Covid: Pryder cefnogwyr am ddigwyddiadau chwaraeon 2021

  • Cyhoeddwyd
diolchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aeth miloedd o gefnogwyr Cymru i ddilyn y tîm yn Ffrainc ar gyfer Euro 2016

Cynyddu mae pryderon ymysg cefnogwyr chwaraeon y bydd digwyddiadau mawr y byd chwaraeon yn cael eu canslo, neu eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig yn 2021, oherwydd coronafeirws.

Mae Gemau Olympaidd a Pharalympaidd yn Tokyo a Chwpan Ryder ar y calendr y flwyddyn nesaf, ond hefyd taith y Llewod i Dde Affrica a chystadleuaeth Euro 2020 a gafodd ei gohirio o eleni.

Eisoes mae cefnogwyr pêl-droed Cymru wedi cael cyngor i beidio gwneud trefniadau teithio i'r Euros.

Dywedodd un corff sy'n cynrychioli cefnogwyr ei bod yn bosib na fydd stadiymau'n agor oni bai fod brechlyn ar gael erbyn hynny.

Y bwriad o hyd yw cynnal y gystadleuaeth ar draws cyfandir Ewrop, gyda'r rowndiau cynderfynol a therfynol yn Wembley, Llundain.

Dywedodd Paul Corkery o Ffederasiwn Cefnogwyr Pêl-droed Cymru: "Mae UEFA'n dweud eu bod yn obeithiol y bydd cefnogwyr yn cael mynd i mewn i'r stadiymau, ac y bydd y gystadleuaeth yn dal i ddigwydd mewn 12 dinas.

Osgoi gwneud trefniadau

"Ond os na fydd brechlyn, allai ddim gweld sut gall y twrnament gael ei chynnal mewn 12 gwlad wahanol."

Yr ansicrwydd yw'r pryder, ac mae Mr Corkery am weld llywodraethau'n darparu "llwybr clir" i gefnogwyr ddychwelyd i weld gemau byw.

"Mae llawer o wledydd UEFA wedi caniatáu cefnogwyr yn ôl yn llwyddiannus heb weld cynnydd mewn covid, ac mae'r cyfan wedi cael ei wneud yn ddiogel," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhyw 15,000 o gefnogwyr fynd i weld Super Cup UEFA yn Budapest ym mis Medi

Mae UEFA wedi caniatáu ailagor stadiymau mewn gwledydd lle mae'r rheolau Covid-19 yn galluogi hynny, ond heb gefnogwyr oddi cartref, a hyd at 30% o'r hyn mae'r stadiwm yn gallu dal.

Ond nid dyna'r sefyllfa yma, ac fe gafodd cais i gynnal prawf lle byddai 2,000 o gefnogwyr yn cael mynd i Stadiwm Dinas Caerdydd ei wrthod gan Llywodraeth Cymru.

"Heb gynlluniau i gael cefnogwyr yn ôl, rwy'n credu bydd yr Euros yn digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig, a bydd hynny'n ergyd i'r cefnogwyr," meddai Mr Corkery.

"Ry'n ni'n cynghori cefnogwyr i beidio gwneud trefniadau o gwbl. Mae rhai eisoes wedi cael eu tocynnau am eu bod wedi eu trosglwyddo o eleni, ond ry'n ni'n dweud y dylen nhw oedi cyn archebu hediadau neu westai yn yr hinsawdd bresennol."

Beth am gefnogwyr rygbi?

Bydd tîm rygbi'r Llewod yn teithio i Dde Affrica yn 2021.

Ar y daith ddiwethaf, aeth tua 25,000 o gefnogwyr i Seland Newydd yn 2017, ac mae Anne a Mike Davies o'r Tymbl, Sir Gaerfyrddin yn gobeithio mynd y flwyddyn nesaf.

"Ym mis Gorffennaf, doedd dim amheuon gyda ni am daith y Llewod, ond bedwar mis yn ddiweddarach mae'n edrych yn amheus iawn," meddai Mrs Davies, sy'n berchen tocyn tymor gyda'r Scarlets.

"Efallai bydd e'n cael ei ohirio tan yr hydref, neu hyd yn oed 2022.

Ffynhonnell y llun, Mike Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anne a Mike Davies eisoes wedi archebu taith i ddilyn y Llewod yn Ne Affrica

"Dyw'r oedi ddim yn ddelfrydol oherwydd roedd hwn i fod yn drip unwaith-mewn-bywyd i ni, ond rhaid i ni dderbyn y sefyllfa."

Ychwanegodd Mr Davies: "Roedden ni wedi gobeithio erbyn hyn y bydde cefnogwyr yn cael mynd mewn, ond dyw hyd yn oed taith i Lanelli a Parc y Scarlets ddim mewn golwg eto.

"Allwch chi ddim help ond teimlo'r bryderus am y ffordd ymlaen."

Wrth sôn am gefnogwyr yn dychwelyd i feysydd chwarae, dywedodd Llywodraeth Cymru fod iechyd cyhoeddus "yn cael y flaenoriaeth".

"Ry'n ni'n deall wrth gwrs fod hwn yn gyfnod anodd i'r sector, a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth tuag at ailagor yn ddiogel pan fydd yr amser yn iawn," meddai llefarydd.