Chwe Gwlad Merched: Ffrainc 53-0 Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae tîm rygbi merched Cymru wedi colli'n drwm unwaith yn rhagor yn erbyn chwaraewyr rhannol-broffesiynol Ffrainc yng ngêm gyntaf ymgyrch Chwe Gwlad 2021.

Hon hefyd oedd gêm gyntaf y prif hyfforddwr Warren Abrahams wrth y llyw, a gêm gystadleuol gyntaf y garfan ers blwyddyn oherwydd y pandemig.

Sgoriodd y Ffrancwyr wyth cais i guro Cymru 53-0, gan ragori ar sgôr y llynedd o 50-0.

Roedd hi'n 31-0 wedi hanner cyntaf a welodd pum cais - tri gan Caroline Boujard, ac un yr un gan Agathe Sochat ac Emeline Gros.

Roedd yna gais arall i Gros yn yr ail hanner, un gan Emilie Boulard a chais hwyr gan yr eilydd Laure Touye

Daeth gweddill y pwyntiau yn sgil pum trosiad a chiciau cosb Pauline Bourdon.

Treuliodd Cymru rannau helaeth o'r gêm yn amddiffyn. Eto i gyd roedd yna gyfnodau o benderfynoldeb a dycnwch gan y chwaraewyr, yn arbennig yn yr ail hanner, wnaeth atal Ffrainc rhag ychwanegu hyd yn oed mwy o bwyntiau.

Dywedodd y capten Siwan Lillicrap wrth Â鶹ԼÅÄ Cymru wedi'r gêm: "Gallwch chi ddim barnu ein hymdrech, ein parodrwydd i weithio...

"Fel sgwad mae angen i ni gael cysondeb, a mae gyda ni hynny gyda Warren."

Yn hytrach na'r drefn arferol lle mae pob tîm yn wynebu ei gilydd, mae'r gwledydd yn cael eu rhannu'n ddau grŵp eleni ac yn chwarae dwy gêm grŵp cyn penwythnos y gemau terfynol.

Iwerddon yw'r tîm arall sydd yng ngrŵp Cymru, sef Grŵp B, a bydden nhw'n wynebu ei gilydd ddydd Sadwrn nesaf ym Mharc yr Arfau Caerdydd