Â鶹ԼÅÄ

Penodi prif hyfforddwyr rygbi Tîm Merched Cymru

  • Cyhoeddwyd
Fe fydd Rachel Taylor a Warren Abrahams yng ngofal y tîm ar gyfer Cwpan y Byd 2021Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Rachel Taylor a Warren Abrahams yng ngofal y tîm ar gyfer Cwpan y Byd 2021

Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi Warren Abrahams, cyn ddirprwy tîm saith bob ochr yr UDA, fel prif hyfforddwr Tîm Merched Cymru.

Rachel Taylor, cyn-gapten Cymru, sydd wedi ei phenodi fel hyfforddwr sgiliau'r tîm.

Abrahams yw hyfforddwr du cenedlaethol cyntaf Undeb Rygbi Cymru, a Taylor yw'r hyfforddwr proffesiynol benywaidd cyntaf.

"Mae hwn yn adeg gyffrous i fod yn rhan o raglen Cymru," meddai Abrahams.

Fe fydd y ddau yn cychwyn ar eu gwaith yn syth wrth i'r paratoadau fynd rhagddynt ar gyfer cystadleuaeth Cwpan y Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

"Mae gennym gyfle i wneud rhywbeth go arbennig yn y 12 mis nesaf a thu hwnt," meddai Abrahams.

Bydd Abrahams a Taylor yng ngofal tîm wnaeth fethu a churo gêm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Mae'r garfan wedi bod yng ngofal dros dro Chris Horsman a Darren Edwards ers i Rowland Phillips adael fel prif hyfforddwr.