Diffibriliwr newydd i achub bywydau ar Fryniau Clwyd

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Moel Famau ydy'r uchaf o Fryniau Clwyd ar y ffin rhwng Sir Ddinbych a Sir y Fflint

Mae diffibriliwr wedi'i osod ar gopa uchaf Bryniau Clwyd yn dilyn galwadau am well diogelwch cyhoeddus mewn mannau anghysbell.

Wedi'i leoli ar fryn Moel Famau rhwng maes parcio Penbarras a Thŵr y Jiwbili, mae'r diffibriliwr newydd yn gam tuag at ddiogelu cerddwyr wrth i fwy o bobl fentro allan i fannau gwledig yn ystod y pandemig.

Dywed y trefnwyr bod yr angen i wella diogelwch cyhoeddus wedi dod i'r amlwg wedi i rywun gael trawiad ar y galon yn yr ardal y llynedd.

Mae'r diffibriliwr newydd wedi'i ariannu gan elusen Keep the Beats - prosiect sy'n cael ei redeg gan staff iechyd rheng flaen a chleifion cardiaidd - mewn partneriaeth gyda Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Disgrifiad o'r fideo, Tomos Hughes o'r Gwasanaeth Ambiwlans sy'n gofalu am ddiffibriliwr newydd Moel Famau

Cafodd grant ei roi gan Apêl Ymateb Covid-19 yr Awyr Las, sef elusen y GIG yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Tomos Hughes, Swyddog Diffibriliwr Mynediad Cyhoeddus Cymunedol Gogledd Cymru, fod gosod diffibrilwyr ledled yr ardal yn hanfodol ar gyfer achub bywydau.

"Pan mae rhywun yn cael trawiad ar y galon, mae'u calon yn stopio curo, felly mae bob eiliad yn cyfri'.

"Ar ôl pedwar munud, pan mae'r claf wedi disgyn a mynd mewn i cardiac arrest, mae'r siawns o gael y person yna'n ôl yn lleihau 10% bob munud.

"Mae perfformio CPR a defnyddio diffibriliwr cyn i'r ambiwlans gyrraedd yn dyblu'r siawns o oroesi", meddai.

Ffynhonnell y llun, Awyr Las

Disgrifiad o'r llun, Mae bron i 1,000 o ddiffibrilwyr mewn mannau anghysbell ledled gogledd Cymru

Dywedodd Mr Hughes fod addysgu plant a phobl ifanc am sut i berfformio CPR yn "hynod bwysig".

"Dwi'n falch fod CPR yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymru oherwydd mae'n hynod bwysig fod plant yn gwybod sut i achub bywydau."

Er hyn, ychwanegodd Mr Hughes nad ydy llawer o bobl yn teimlo'n hyderus i berfformio CPR.

"Peidiwch byth bod ofn gwneud CPR a defnyddio diffibriliwr, mi gewch chi ddigon o help gan y gwasanaeth ambiwlans dros y ffôn", meddai.

Ffynhonnell y llun, Awyr Las

Disgrifiad o'r llun, Nid yw bron i draean o oedolion y DU yn debygol o roi cynnig ar berfformio CPR, yn ôl arolwg gan Brifysgol Warwick a YouGov

Mae gwirfoddolwyr North East Wales Search and Rescue (NEWSAR) yn croesawu'r diffibriliwr newydd ar fryn mwyaf poblogaidd Bryniau Clwyd.

Dywedodd Chris Griffiths, arweinydd tîm NEWSAR: "Mae miloedd o bobl yn cerdded Moel Famau bob wythnos a bydd hyn yn bendant yn helpu i achub bywydau pe bai rhywun yn dioddef trawiad ar y galon, cwymp sydyn, neu ataliad ar y galon.

"Bydd cael diffibriliwr ar y safle yn cefnogi ymdrechion ein timau achub yn ystod digwyddiadau critigol."

Dywedodd Mr Hughes fod cynlluniau i osod rhagor o ddiffibrilwyr mewn sawl ardal yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Sir Fôn, Pen Llŷn ac Eryri.