Â鶹ԼÅÄ

Dioddefwyr sgandal gwaed yn 'bêl-droed wleidyddol'

  • Cyhoeddwyd
Bag gwaedFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae dioddefwyr sgandal gwaed y 1970au a'r 80au yn cael eu trin fel "pêl-droed wleidyddol" yng Nghymru yn ôl yr elusen sydd yn eu cynrychioli.

Mae Haemophilia Wales yn pryderu bod dioddefwyr yn marw heb dderbyn y gefnogaeth ariannol y maen nhw'n haeddu oherwydd gwahaniaethau o ran faint o arian sy'n cael ei dalu ledled y DU.

Roedd cynnydd yn y taliadau i ddioddefwyr yn Lloegr yn gynharach eleni ac ym mis Gorffennaf, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething, ei fod am i'r mater gael ei ddatrys yn gyflym.

Fodd bynnag, does dim newid wedi bod i'r taliadau yng Nghymru - sydd yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru.

Yn ôl Haemophilia Wales, mae hynny'n gadael dioddefwyr â £10,000 y flwyddyn yn llai o gymharu â phobol yn yr un sefyllfa yn Lloegr.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod trafodaethau yn parhau er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn derbyn taliadau sy'n cyfateb i'r rheini dros Glawdd Offa.

Disgrifiad o’r llun,

Pan ddaeth Rachel McGuiness yn fam ei hun wnaeth hi deimlo effaith colli ei thad

Bu farw tad Rachel McGuiness yn 1990 ar ôl cael ei heintio gyda HIV.

"Ma' Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ni i ryw raddau, ac mae hynny wedi bod yn werthfawr iawn, ond ar ddiwedd y dydd, dy'n nhw ddim yn gallu mynd nôl a mlaen fatha plant."

Mae Rachel yn pwysleisio hefyd y dylai gwragedd a gŵyr gweddw cael eu cynnwys yn y system daliadau.

"Oherwydd bod mam wedi rhoi lan ei job does ganddi ddim pensiwn, dim ond pensiwn y wlad sydd ganddi, ac mae dal i weithio ac mae'n 71.

"Mae'n mwynhau gweithio, ond dim dyna 'dy'r pwynt. Mi ddyla fod gen hi ddewis erbyn hyn, ond am fod hi wedi gorfod rhoi gorau i gwaith i edrych ar ôl fy nhad doedd dim pensiwn ganddi hi.

"Wrth gwrs am fod dad wedi marw doedd dim cyflog yn dod i mewn ganddo fo chwaith. So mae o wedi cael effaith dwbl ar y teulu mewn ffordd."

Disgrifiad o’r llun,

13 oed oedd Rachel pan gafodd ei thad y diagnosis bod ganddo HIV

Roedd mam Rachel ymhlith y rhai sydd wedi rhoi tystiolaeth i ymchwiliad cyhoeddus i'r sgandal gwaed sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Yr amcangyfri' yw bod o leiaf 300 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio ond nid yw'r ffigwr hwnnw'n cynnwys pobl fu farw heb wybod eu bod wedi'u heffeithio.

Er bod Cadeirydd Haemophilia Wales, Lynne Kelly, yn dweud "yn y pen draw, Llywodraeth y DU sydd ar fai" mae hi'n credu y dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i helpu dioddefwyr a'u teuluoedd.

"Nid oedd Llywodraeth Cymru yn bodoli ar y pryd. Ond mae gennym lywodraeth yng Nghymru bellach ac ry'n ni'n ddinasyddion Cymru. Ry'n ni'n haeddu cael gofal.

"Felly dyna pam ry'n ni'n edrych at Lywodraeth Cymru. Ond yn anffodus ry'n ni'n cael ein defnyddio fel pêl-droed wleidyddol. Ry'n ni'n cael ein gwthio o bared i bost gyda hyn. "

"Ry'n ni'n gwybod mai dim ond un cyfarfod sydd wedi bod rhwng gweinidogion Llywodraeth Cymru, y gweinyddiaethau datganoledig a swyddfa'r cabinet. Ond does dim wedi digwydd - ac mae pobl yn marw."

Disgrifiad o’r llun,

Byddai cadeirydd Haemophilia Wales, Lynne Kelly yn hoffi gweld gweddwon Cymru yn cael tâl

Mae Haemophilia Wales yn ymgyrchu hefyd i sicrhau taliadau i weddwon - sydd, yn wahanol i'r Alban, ddim yn derbyn unrhyw daliadau yng Nghymru na Lloegr.

"Dim ond 35 o weddwon sydd yng Nghymru, ac mae'r Ustus Langstaff, cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus wedi gofyn i daliadau gael eu lefelu ledled y DU ar gyfer y bobl sydd wedi eu heintio a'r bobl sydd wedi eu heffeithio gan y sgandal."

Mewn cyfweliad â Â鶹ԼÅÄ Cymru ym mis Gorffennaf, dywedodd y gweinidog iechyd Vaughan Gething ei fod am i'r mater gael ei ddatrys "cyn gynted â phosib", gan ychwanegu mai'r "peth olaf mae teuluoedd am weld a'i glywed yw bod gêm yn cael ei chwarae rhwng gwleidyddion".

Trafod eto

Fe wrthododd Mr Gething ein cais am gyfweliad arall, ond mewn datganiad, dywedodd: "Roedd y cyhoeddiad a wnaed ar 30 Ebrill eleni gan Brif Weinidog y DU ar y pryd yn hynod anffodus, a dim ond at daliadau a wnaed i fuddiolwyr y Cynllun Gwaed Heintiedig yn Lloegr (EIBSS) y cyfeiriwyd."

Ychwanegodd y gweinidog bod "trafodaethau wedi bod ar y gweill ar lefel gweinidogion a swyddogion i geisio'r cyllid ychwanegol sydd ei angen" i roi taliadau sy'n cyfateb i'r rhai yn Lloegr.

Dywedodd y bydd y gwaith i sicrhau cydraddoldeb ariannol yn dechrau eto nawr bod llywodraeth newydd wedi ei ffurfio yn San Steffan.

"Rwy'n parhau'n ymroddedig i sicrhau bod llais y rheini sydd wedi cael eu heintio a/neu eu heffeithio yn cael ei glywed yn yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig a'u bod yn cael yr ateb y maen nhw'n ei haeddu."