Marwolaethau Covid ar ei lefel isaf ers mis Hydref

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 ei chofnodi mewn pedair sir

Mae nifer y marwolaethau'n ymwneud â Covid-19 wedi gostwng am yr wythfed wythnos yn olynol yng Nghymru.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd 68 o farwolaethau ble roedd y feirws yn ffactor yn yr wythnos hyd at 12 Mawrth.

Mae hynny ychydig yn llai na 10% o'r holl farwolaethau yng Nghymru yr wythnos honno, a 35 yn llai o farwolaethau o'i gymharu â'r wythnos flaenorol.

Dyma'r nifer isaf o farwolaethau wythnosol ers 23 Hydref, a ni chafodd yr un farwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 ei chofnodi yn Abertawe, Blaenau Gwent, Casnewydd a Cheredigion.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Ers dechrau'r pandemig mae dros 7,700 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 wedi'u cofnodi

Unwaith eto roedd y nifer fwyaf o farwolaethau Covid yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr - 23 - ond maen nhw'n gostwng yn yr ardal honno hefyd.

Roedd 17 o farwolaethau yng Nghaerdydd a'r Fro a 10 yn ardal Cwm Taf Morgannwg.

Marwolaethau'n parhau ar lefel arferol

Mae nifer y 'marwolaethau ychwanegol', sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig gyda blynyddoedd blaenorol, bellach yn is na'r cyfartaledd pum-mlynedd am yr ail wythnos yn olynol.

Mae edrych ar nifer y marwolaethau y byddwn yn disgwyl eu gweld ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn cael ei weld fel ffordd ddibynadwy o fesur effaith y pandemig.

Cwympodd nifer y marwolaethau yng Nghymru i 685 yn yr wythnos hyd at 12 Mawrth, sydd 35 marwolaeth yn is na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Ers dechrau'r pandemig dengys y ffigyrau bod 39,454 o bobl wedi marw yng Nghymru o unrhyw achos, tra bod 7,717 marwolaeth lle mae Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth.

Mae hyn 6,123 marwolaeth yn uwch na'r cyfartaledd pum-mlynedd.

Pan ystyrir y marwolaethau a ddigwyddodd hyd at 12 Mawrth ond na chafodd eu cofrestru tan ar ôl hynny, mae cyfanswm y rhai a fu farw o achos Covid yn codi i 7,731.