Â鶹ԼÅÄ

Nifer y marwolaethau Covid yng Nghymru wedi gostwng eto

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
clo mawrFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â Covid yng Nghymru wedi gostwng am y chweched wythnos yn olynol.

Ond mae nifer y marwolaethau yn ystod y pandemig wedi codi i 7,600, yn ôl ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Hyd at ddiwedd wythnos 26 Chwefror, mae'r ONS yn nodi bod 138 marwolaeth yn gysylltiedig â'r haint - sef 18.2% o holl farwolaethau yr wythnos honno.

Dyw nifer y marwolaethau yn ystod yr wythnos benodol hon a nifer y marwolaethau a gofnodwyd mewn cartrefi gofal heb fod mor isel ers diwedd mis Hydref.

Roedd yna 41 marwolaeth yn llai yn wythnos olaf lawn Chwefror na'r wythnos flaenorol.

Ond dywed byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro a Bae Abertawe eu bod nhw wedi cofnodi mwy o farwolaethau yn ystod yr wythnos hon.

Y darlun ar draws Cymru

Roedd 36 marwolaeth ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro gan gynnwys 32 mewn ysbyty - o'u nodi fesul awdurdod lleol roedd 24 marwolaeth mewn ysbytai yng Nghaerdydd a naw ym Mro Morgannwg.

Roedd 27 marwolaeth yng ngogledd Cymru - y nifer isaf ers dechrau'r flwyddyn.

Roedd 10 marwolaeth mewn ysbytai yn Sir Gaerfyrddin a phedair marwolaeth mewn cartrefi gofal ymhlith y 22 o farwolaethau a gofnodwyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan roedd 12 marwolaeth - y nifer isaf ers 23 Hydref.

Ym Mae Abertawe cafodd 17 marwolaeth eu cofnodi - tair yn fwy na'r wythnos flaenorol.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Nodir bod marwolaethau mewn cartrefi gofal hefyd wedi gostwng

22 marwolaeth oedd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod yr wythnos hon.

Yng Nghymru a Lloegr mae niferoedd y marwolaethau yn gyffredinol wedi gostwng yn is na'r cyfartaledd pum mlynedd am y tro cyntaf ers canol Rhagfyr.

O edrych yn gyffredinol ar nifer y marwolaethau o bob achos, cofnodwyd bod y nifer wedi gostwng i 759 yng Nghymru yn wythnos lawn olaf Chwefror - roedd hynny 35 marwolaeth (4.8%) yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

Wrth edrych ar gyfnod y pandemig mae 38,080 o farwolaethau wedi'u cofnodi - roedd 7,546 yn nodi Covid ar y dystysgrif marwolaeth - mae hyn 5,447 yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.

O gyfrif cofrestriadau hwyrach nodir bod 7,592 o farwolaethau cysylltiedig â Covid yng Nghymru wedi'u cofnodi hyd at yr wythnos oedd yn gorffen 26 Chwefror.