Bonws £500 i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Disgrifiad o'r llun, Y gweinidog iechyd Vaughan Gething

Bydd pob un o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn derbyn taliad bonws o £500, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

Bydd dros 220,000 o bobl sy'n gweithio ar draws y GIG a'r sector gofal cymdeithasol yn derbyn yr arian yn eu cyflogau, gan ddechrau fis nesaf.

Hwn fydd yr ail daliad bonws i weithwyr gofal cymdeithasol ers dechrau'r pandemig, a'r cyntaf o'i fath i weithwyr iechyd.

"Byddwn yn talu am gost treth incwm ar y raddfa sylfaenol ac am gyfraniadau yswiriant gwladol," meddai'r gweinidog yn ystod cynhadledd newyddion y llywodraeth ddydd Mercher.

"Mae hyn yn cyfateb i £735 y person - ar ôl tynnu treth ac yswiriant gwladol, bydd y rhan fwyaf o bobl yn derbyn £500."

Pwy sy'n gymwys?

Bydd myfyrwyr sydd wedi gweithio i'r GIG yn ystod y pandemig yn gymwys i dderbyn y taliad, yn ogystal â thua 26,000 o weithwyr gofal sylfaenol, yn cynnwys staff fferyllfeydd, meddygon teulu, deintyddol ac optometreg.

Pwysleisiodd Mr Gething nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng y taliad a'r trafod diweddar ar godiadau cyflog yn y GIG.

"Rydym wedi cyflwyno'n tystiolaeth i'r cyrff adolygu cyflogau annibynnol, heb osod uchafswm mympwyol ar gyflogau, ac rydym yn disgwyl clywed eu hargymellion," meddai.

A hithau bron yn flwyddyn ers dechrau'r pandemig, rhoddodd y gweinidog deyrnged i weithwyr y GIG a gofal cymdeithasol am eu "cyfraniad gwirioneddol ryfeddol" i daclo'r argyfwng.

"Rydych wedi helpu i achub bywydau ac wedi cadw pobl yn saff o dan rai o'r amodau mwyaf heriol ac anodd... ac wrth inni gyrraedd blwyddyn [ers dechrau'r pandemig] rydych yn dal i weithio'n galed yn edrych ar ôl pobl sâl a bregus, ac yn brechu degau o filoedd o bobl bob dydd i roi gwir obaith at y dyfodol."

Staff 'wedi ymlâdd ac ar gyflogau isel'

Mae rhai o'r undebau sy'n cynrychioli gweithwyr y sector iechyd a gofal wedi croesawu'r taliad bonws.

Dywedodd Mike Payne o undeb y GMB bod gofal ac ymroddiad gweithwyr dros y flwyddyn diwethaf wedi bod yn rhagorol, "yn ysgwyddo'r perygl heb oedi am eiliad ac yn wynebu heriau a allai effeithio arnyn nhw a'u teuluoedd am flynyddoedd i ddod".

Dywedodd Paul Summers ar ran undeb Unsain ei fod yn "hwb amserol i staff GIG a gofal iechyd, sydd wedi ymlâdd ac ar gyflogau isel".

Ac yn ôl Dr David Bailey, cadeirydd Cymru o gymdeithas feddygol y BMA, roedd y taliad yn gydnabyddiaeth o waith doctoriaid a gweithwyr iechyd eraill yng Nghymru, ond "rydym yn ailadrodd ein galwad am godiad cyflog sylweddol i ddoctoriaid fyddai'n adlewyrchu'r erydiad mewn tâl, mewn termau real, sydd wedi digwydd dros y degawd ddiwethaf".

Mae AS Plaid Cymru, Delyth Jewell hefyd wedi croesawu'r taliad untro, ond galwodd am drawsnewid cyflogau i'r sector.

Dywedodd y dylai staff fod ar "£10 yr awr o leiaf", a bod "bwlch enfawr" yn nhâl staff y GIG a staff gofal.