Gwersyll ymgeiswyr lloches Penalun i gau ar 21 Mawrth

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd y safle dderbyn ymgieswyr lloches ym mis Medi

Bydd cyn-wersyll milwrol yn Sir Benfro sy'n cael ei ddefnyddio i gartrefu ymgeiswyr lloches yn cau ar 21 Mawrth.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart y bydd y Swyddfa Gartref yn dychwelyd gofal y gwersyll ym Mhenalun, ger Dinbych-y-pysgod, i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae Â鶹ԼÅÄ Cymru yn deall y bydd nifer o'r ymgeiswyr lloches yn gadael cyn y diwrnod cau.

Disgrifiad o'r llun, Tua 40 o ddynion yn protestio tu allan i'r gwersyll ym mis Tachwedd dros honiadau bod eu hawliau dynol wedi eu torri

Dywedodd Mr Hart, ei fod yn "hynod ymwybodol" fod y modd yr aeth ati i ddefnyddio'r gwersyll "wedi achosi dicter a rhwystredigaeth".

Ychwanegodd AS Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro fod y Swyddfa Gartref yn cydnabod hyn ond nad oedd ganddynt fawr o ddewis ar y pryd.

Fis Medi'r llynedd fe benderfynodd y Swyddfa Gartref leoli hyd at 250 o ymgeiswyr lloches ym Mhenalun.

Roedd rhai yn honni fod y safle a chyflwr yr adeilad yn anaddas a bod risg o ymlediad coronafeirws.

Ffynhonnell y llun, Llun preswylydd

Disgrifiad o'r llun, Mae lluniau a dynnwyd y tu mewn i'r gwersyll yn dangos yr amodau byw yn un o'r ystafelloedd

Dywedodd y Swyddfa Gartref ar y pryd fod y safle yn ddiogel ac yn cyd-fynd â rheolau Covid.

Ym mis Ionawr fe wnaeth yr ymgeiswyr lloches honni fod cyflwr Penalun yn gwbl anaddas.

Roedd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru wedi galw am gau'r gwersyll.

'Sgandal'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS: "Mae methiannau cyfundrefnol y Swyddfa Gartref yn sgandal na ddylai gael ei sgubo dan y carped. Rydym angen gwarantau rhwymedig na chaiff sefyllfa fel hyn byth ddigwydd eto.

"Rydym angen system lloches sy'n rhoi lles y rhai sy'n ceisio lloches yn gyntaf, ac i gymunedau fod wrth galon unrhyw benderfyniadau."

Ychwanegodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd yr ardal, Dafydd Llywelyn, ei fod yn falch o weld "synnwyr cyffredin yn trechu".

"Mae defnydd y Swyddfa Gartref o'r gwersyll, yn enwedig mewn pandemig, wedi rhoi pwysau aruthrol ar bobl leol, gwasanaethau, a'r trigolion eu hunain, bydd cau'r gwersyll yn rhyddhad i bob un."

'Llety diogel'

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref bod Penalun wedi darparu "llety diogel i geiswyr lloches a fyddai'n amddifad fel arall".

"Mae'r safle wedi rhoi gwerth am arian ac rydym yn ddiolchgar i'r Weinyddiaeth Amddiffyn am gael defnyddio'r safle dros dro."

Ychwanegodd bod y trefniant wedi bod o gymorth pan oedd llety ceiswyr lloches dan bwysau oherwydd Covid.

"Wrth i'r pwysau yna leihau rydym wedi penderfynu peidio ymestyn y caniatâd cynllunio brys tu hwnt i chwe mis."

"Bydd yr Ysgrifennydd Cartref yn dod â'i chynlluniau i drwsio'r system lloches toredig ymlaen, a bydd y cynllun hwnnw'n cynnwys mynd i'r afael ag ystâd lloches y llywodraeth."

'Anaddas'

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt:

"Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gau gwersyll Penalun yn cael ei groesawu. Roedd Llywodraeth Cymru yn gwbl glir o'r dechrau nad oedd y safle'n ddiogel a'i fod yn anaddas.

"Dyw Llywodraeth y DU ddim yn cytuno gyda'n safbwynt, ond mae archwiliad diweddar gan Brif Arolygydd ar fewnfudo a ffiniau yn cadarnhau ein gosodiad nad yw'r safle'n ddiogel ac yn addas ac y dylai gau ar unwaith.

"Rwy'n edrych ymlaen at weithio'n agos gyda'r Swyddfa Gartref i ddatblygu cynlluniau manwl ar sut i gefnogi'r gymuned leol a chymdogion y gwersyll yn dilyn y penderfyniad.