Marwolaethau yng Nghymru yn 么l i'w lefelau arferol

Ffynhonnell y llun, 麻豆约拍

Mae nifer y marwolaethau yng Nghymru yn 么l i'w lefelau arferol am y tro cyntaf mewn pum mis, yn 么l ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Mae'r hyn a elwir yn "farwolaethau ychwanegol" yn is na'r disgwyl ar gyfartaledd yn ystod yr wythnos ddiweddaraf.

Am y seithfed wythnos yn olynol bu gostyngiad yn nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig 芒 Covid-19 - y ffigwr isaf ers 23 Hydref.

Roedd 103 o farwolaethau lle'r oedd Covid yn ffactor, sy'n cyfateb i 14.9% o'r holl farwolaethau yn ystod yr wythnos hyd at 5 Mawrth.

Mae hyn yn 35 yn llai na'r ffigwr a gofnodwyd yn yr wythnos flaenorol.

Beth ydy marwolaethau ychwanegol?

Mae edrych ar nifer y marwolaethau y byddwn yn disgwyl eu gweld ar unrhyw adeg o'r flwyddyn yn cael ei weld fel ffordd ddibynadwy o fesur effaith y pandemig.

Mae 'marwolaethau ychwanegol', sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig gyda blynyddoedd blaenorol, bellach yn is na'r cyfartaledd pum-mlynedd am y tro cyntaf ers bron i bum mis.

Cwympodd nifer y marwolaethau yng Nghymru i 689 yn yr wythnos hyd at 5 Mawrth - naw yn is na'r cyfartaledd dros y bum mlynedd ddiwethaf.

Ynghyd 芒 Swydd Efrog, Humber, a gogledd-ddwyrain Lloegr, Cymru oedd yr unig wlad neu ranbarth lle'r oedd nifer y marwolaethau yn is na'r cyfartaledd am yr adeg yma o'r flwyddyn.

Ers dechrau'r pandemig dengys y ffigyrau bod 38,769 o bobl wedi marw o wahanol achosion tro bod 7,649 marwolaeth lle mae Covid-19 yn cael ei grybwyll ar y dystysgrif marwolaeth.

Mae hyn 5,438 marwolaeth yn uwch na'r cyfartaledd pum-mlynedd.

Pan ystyrir y marwolaethau a ddigwyddodd hyd at 5 Mawrth ond na chafodd eu cofrestru tan ar 么l hynny, mae cyfanswm y rhai a fu farw o achos Covid yn codi i 7,673.

Ble bu'r marwolaethau?

Gogledd Cymru oedd 芒'r mwyaf o farwolaethau oherwydd Covid yn yr wythnos hyd at 5 Mawrth, ond y 25 marwolaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr oedd y ffigwr isaf yno ers dechrau'r flwyddyn.

Roedd y cyfanswm yn cynnwys saith marwolaeth yn Sir y Fflint a phedwar yr un yng Ngwynedd a M么n.

Gwelwyd 18 marwolaeth yng Nghaerdydd a'r Fro - hanner cyfanswm yr wythnos cyn hynny.