Polisi iaith newydd i gynorthwyo dioddefwyr str么c

Disgrifiad o'r llun, Cafodd Arnot Hughes str么c ym mis Chwefror 2020

Mae Cymdeithas Str么c Cymru yn gobeithio y bydd eu polisi iaith newydd yn arwain at well triniaeth i siaradwyr Cymraeg wrth ymdopi a sgil-effeithiau str么c.

Yn 么l y gymdeithas mae'r ddarpariaeth ar hyn o bryd yn anwastad, gyda phrinder therapyddion iaith sy'n gallu siarad Cymraeg mewn rhai ardaloedd.

Bu'n rhaid i Arnot Hughes o Gaerdydd ddibynnu ar ei deulu i'w helpu i ailddechrau siarad Cymraeg, wedi iddo gael str么c ym mis Chwefror y llynedd.

"Doeddwn i ddim yn gallu siarad o gwbl pan adawes i'r ysbyty," meddai.

"Fe ges i chwe wythnos o therapi lleferydd ac iaith ar-lein, ond roedd ar gael yn Saesneg yn unig ac nid oedd yn ddigon."

Helpodd Mr Hughes y Gymdeithas Str么c i sefydlu'r Gr诺p Paned a Sgwrs - gr诺p cymorth ar-lein ar gyfer dioddefwyr str么c sydd eisiau cyfathrebu yn Gymraeg.

'Hawl, yn hytrach na dewis'

Dywedodd Katie Chappelle, cyfarwyddwr Cyswllt Cymru: "Mae'r Gymdeithas Str么c wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i bawb sy'n siarad ac yn darllen Cymraeg.

"Mae tua 70,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda sgil-effeithiau str么c, gyda dros 7,000 o achosion newydd bob blwyddyn."

Ychwanegodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: "Croesawn y ffaith bod Str么c Cymru yn cydnabod y dylai iaith fod yn hawl, yn hytrach na dewis, i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf."