Â鶹ԼÅÄ

Beirniadu diffyg cymorth gan y GIG i oroeswyr sepsis

  • Cyhoeddwyd
Angela Burns
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd Angela Burns AC sepsis ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd ganddi niwmonia

Does dim cefnogaeth gan GIG Cymru i bobl sy'n goroesi sepsis, yn ôl Aelod Cynulliad Ceidwadol gafodd y salwch.

Mae Angela Burns AC ac elusen Ymddiriedolaeth Sepsis y DU wedi beirniadu'r cymorth sydd ar gael gan y GIG.

Maen nhw eisiau i gleifion sepsis dderbyn gwybodaeth pan maen nhw'n gadael yr ysbyty a chael sesiynau i'w helpu yn eu hadferiad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cefnogi datblygiad cofrestrfa sepsis" fydd yn canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor i bobl sydd wedi cael y salwch.

'Syndrom ôl-sepsis'

Mae dros 10,000 o bobl yn cael sepsis yng Nghymru pob blwyddyn, gyda thua 2,000 o' rheiny'n marw, yn ôl yr elusen.

Mae'r salwch yn datblygu pan fo'r corff yn ymosod ar ei hun wrth ymateb i haint.

Mae mwyafrif y goroeswyr yn gwella fel eu bod yn gallu byw bywyd arferol o fewn 18 mis.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae sepsis yn datblygu pan fo'r corff yn ymosod ar ei hun wrth ymateb i haint

Ond mae nifer yn dioddef gyda phroblemau corfforol a seicolegol hirdymor, sy'n cael ei adnabod fel "syndrom ôl-sepsis".

Fe gafodd Mrs Burns - llefarydd iechyd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad - sepsis ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd ganddi niwmonia.

Wedi iddi adael yr ysbyty dywedodd na chafodd unrhyw gefnogaeth gan y GIG ar gyfer effeithiau seicolegol, er iddi ddechrau teimlo'n isel.

'Dim cefnogaeth'

"Roedd yn gwneud i mi deimlo'n ofnadwy. Rydych chi ar ein pen eich hunain. Doedd gen i ddim cefnogaeth," meddai.

"Doeddwn i ddim yn deall beth oedd yn mynd 'mlaen. Doeddwn i erioed wedi cael iselder - roedd hynny'n rhywbeth newydd i mi."

Dywedodd na chafodd ei meddyg teulu wybod am y sepsis, a'i bod wedi gorfod cael sesiynau cwnsela cyn mynd yn ôl i'r ysbyty am lawdriniaeth ar ei phen-glin am fod ganddi gymaint o ofn mynd yn sâl unwaith eto.

Dywedodd Terence Canning o Ymddiriedolaeth Sepsis y DU bod cefnogaeth y GIG i oroeswyr sepsis yng Nghymru "ddim yn bodoli", ac mai elusennau sy'n ysgwyddo'r baich.

"Am fod sepsis yn weddol newydd o ran gofal iechyd, does ganddo ddim yr un safon o ôl-ofal sydd gan gyflyrau fel trawiad ar y galon, strôc neu ganser," meddai.

Dywedodd Mrs Burns bod angen i gleifion gael pecyn gwybodaeth pan maen nhw'n gadael yr ysbyty, sy'n eu cynghori ynglŷn â beth i'w ddisgwyl a ble i gael cymorth.

'Gwelliannau'

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae gwelliannau wedi bod o ran cael diagnosis a thriniaeth gynnar i bobl sydd â sepsis yng Nghymru.

"Ry'n ni'n cefnogi datblygiad cofrestrfa sepsis - wedi'i arwain gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y cyd â'r byrddau iechyd - sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau hirdymor pobl sydd wedi cael sepsis.

"Bydd rhan gyntaf y gwaith yma yn cael ei gwblhau yn yr haf."

Politics Wales, Â鶹ԼÅÄ One Wales am 10:00 ddydd Sul, 9 Chwefror.