Â鶹ԼÅÄ

Polisi iaith newydd i gynorthwyo dioddefwyr strôc

  • Cyhoeddwyd
Arnot Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Arnot Hughes strôc ym mis Chwefror 2020

Mae Cymdeithas Strôc Cymru yn gobeithio y bydd eu polisi iaith newydd yn arwain at well triniaeth i siaradwyr Cymraeg wrth ymdopi a sgil-effeithiau strôc.

Yn ôl y gymdeithas mae'r ddarpariaeth ar hyn o bryd yn anwastad, gyda phrinder therapyddion iaith sy'n gallu siarad Cymraeg mewn rhai ardaloedd.

Bu'n rhaid i Arnot Hughes o Gaerdydd ddibynnu ar ei deulu i'w helpu i ailddechrau siarad Cymraeg, wedi iddo gael strôc ym mis Chwefror y llynedd.

"Doeddwn i ddim yn gallu siarad o gwbl pan adawes i'r ysbyty," meddai.

"Fe ges i chwe wythnos o therapi lleferydd ac iaith ar-lein, ond roedd ar gael yn Saesneg yn unig ac nid oedd yn ddigon."

Helpodd Mr Hughes y Gymdeithas Strôc i sefydlu'r Grŵp Paned a Sgwrs - grŵp cymorth ar-lein ar gyfer dioddefwyr strôc sydd eisiau cyfathrebu yn Gymraeg.

'Hawl, yn hytrach na dewis'

Dywedodd Katie Chappelle, cyfarwyddwr Cyswllt Cymru: "Mae'r Gymdeithas Strôc wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o'r safon uchaf i bawb sy'n siarad ac yn darllen Cymraeg.

"Mae tua 70,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda sgil-effeithiau strôc, gyda dros 7,000 o achosion newydd bob blwyddyn."

Ychwanegodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg: "Croesawn y ffaith bod Strôc Cymru yn cydnabod y dylai iaith fod yn hawl, yn hytrach na dewis, i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf."

Pynciau cysylltiedig